Llif Llanw Pen-caer

Mae Transition Bro Gwaun (TBG) yn ceisio creu y prosiect llif llanw cyntaf o dan arweiniad/berchnogaeth y gymuned yng Nghymru.  Byddai'r cynnig yn cynnwys un ddyfais neu ychydig o dyrbinau llanw ym Mhen-caer ger Abergwaun.   Mae hyn yn cefnogi amcanion TBG i liniaru effaith y gymuned ar y Newid yn yr Hinsawdd trwy ddarparu ynni cynaliadwy a diogel, tra hefyd yn dod manteision ariannol i fuddsoddwyr lleol a mentrau cymunedol.  Bydd datblygu dyfais llif llanw cymunedol yn enghraifft  o arfer gorau ac yn ffordd ymarferol o ddangos sut y gall technoleg llanw gynnig nid yn unig fanteision amgylcheddol ond fanteision ehangach hefyd i'r gymuned. Bydd yn esiampl i gymunedau eraill ar hyd ein harfordir i ddefnyddio ynni morol fel adnodd ar gyfer y dyfodol.   Amserlen 24 mis ar gyfer y prosiect - tair nodwedd allanol allweddol:   


1. Nodi dyfais/dyfeisiadau addas sy'n barod ar gyfer y farchnad; 
2. Mae hyn yn cael effaith ar opsiynau lesio gwely'r mr, gan bod angen dewis tair dyfais yn fuan er mwyn mynd ymlaen 'r cais.  
3. Yr asesiad o'r effaith ar yr amgylchedd sy'n gysylltiedig thrwyddedu morol.  

Mae hon yn farchnad newydd;  yn hanesyddol, yr ychydig ddyfeisiadau sydd wedi'u defnyddio'n llwyddiannus yw prosiectau peilot gydag amserlenni eang. Yn seiliedig ar farchnad sy'n datblygu, mae'r prosiect ar hyn o bryd i bara am 3-5 mlynedd.  Gallai elfennau eraill megis faint o ddyfeisiadau sydd,  a'r seilwaith sy'n angenrheidiol h.y. cysylltiad 'r grid / storio ayb, gael effaith hefyd ar yr amserlen.  Bydd y cyllid  y gwnaethpwyd cais amdno gan LEADER yn ariannu swyddog datblygu rhan amser. Bydd yr adnodd yn galluogi'r gymuned i arwain partneriaeth eang, sicrhau bod gwely'r mr wedi ei lesio a chasglu cyfalaf cymunedol yn y prosiect.   Bydd adnoddau LEADER hefyd yn darparu ar gyfer teithiau casglu  ffeithiau, datblygu partneriaethau ehangach a sicrhau gwybodaeth drwy ymweld safleoedd eraill sydd wedi datblygu mwy o fewn y farchnad newydd hon, neu sydd dyfeisiadau sydd wedi eu gosod yn llwyddiannus.  Hefyd, byddwn yn chwilio am gyfleoedd i gysylltu ag eraill ar rwydweithiau ynni a storio lleol.  

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£93,600
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
4
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Tom Lattar
Rhif Ffôn:
07831 582718
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://transitionbrogwaun.org.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts