Llwybr Beicio Dyffryn Aeron

Pwrpas yr astudiaeth dichonolrwydd oedd pennu hyfywdra a chost creu llwybr beicio 1.27milltir o Ciliau Aeron i ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - Llanerchaeron. Trwy wneud hyn byddai'r llwybr beicio wedyn yn cysylltu â rhwydwaith llwybrau cerdded yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r llwybr beicio presennol i Aberaeron.

Nod y llwybr beicio arfaethedig yw rhoi ffordd ddiogel a chynaliadwy i bobl leol ac ymwelwyr deithio i nid yn unig i ymweld â Llanerchaeron ond darparu mynediad i Aberaeron tra iddyn nhw allu mwynhau ac archwilio cefn gwlad Dyffryn Aeron.

Roedd gweithgareddau’r prosiect yn cynnwys astudiaeth dichonolrwydd, holiadur a digwyddiad ymgynghoriad. 

Yn ogystal â beicwyr a cherddwyr, canfu canlyniadau'r astudiaeth y byddai pobl hefyd yn defnyddio'r llwybr i arsylwi natur. Mae'r ffigurau cyfartalog yn awgrymu bod beicwyr yn gwario £21 ar gyfartaledd bob ymweliad ag ardal y dref a cherddwyr yn gwario £26. Nid yn unig y byddai eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron yn mwynhau nifer cynyddol o ymwelwyr, ond byddai'r llwybr newydd yn cynyddu traffig trwy ‘Pure Ride Cycle Hire' sydd â fflyd o 20+ o feiciau oedolion a phlant ar gael i'w llogi, a fyddai'n helpu i sicrhau dyfodol y busnes bach hwn a chaniatáu iddynt ehangu, gan greu swyddi tymhorol hyd yn oed.

 

 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£5,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Cynnal y Cardi
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cynnalycardi.org.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts