Llwybr Cerdded a Beicio

"Mae Fforest Cwmcarn yn darparu llwybr hardd saith milltir o hyd drwy 1400 hectar o dir â golygfeydd dros Aber Hafren, gan gynnig nifer o weithgareddau awyr agored o lwybrau beicio mynydd ardderchog (pedwar0;  llwybrau cerdded; llety ar ffurf carafan, pod a safleoedd gwersylla; llyn; a Chanolfan Ymwelwyr yn darparu gwybodaeth, lluniaeth a rhoddion. Fodd bynnag, mae nifer yr ymwelwyr wedi gostwng gan fod ardal Forest Drive Fforest Cwmcarn wedi cau er mwyn cynnal gwaith parhaus i dorri coed llarwydd heintiedig (disgwylir y bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo tan 2019) ac o ganlyniad, bu'n rhaid cau nifer o lwybrau cerdded a beicio yn y fforest.   Fodd bynnag, mae'r gwaith hwn i dorri coed hefyd yn cynnig cyfleoedd i ailasesu'r profiad i ymwelwyr ac i ystyried posibiliadau ar gyfer gweithgareddau amgen ac i uwchraddio cyfleusterau.

Felly nod y prosiect yw:

• Ehangu llwybrau beicio - gan ddarparu 3km o lwybrau newydd 
• Gwella'r llwybrau cerdded presennol - uwchraddio llwybrau troed gan osod arwyddion newydd ar hyd pob rhan o'r llwybrau, gan gynnwys marciau ffyrdd a deunydd dehongli mewn lleoliadau/mannau o ddiddordeb allweddol
• Ardaloedd croesawu/cyrraedd newydd yn y prif faes parcio - gan greu naws am le wrth gyrraedd a chan gynnwys wal carreg sych; arwyddion, deunydd dehongli a gwaith celf; gwaith tirlunio meddal."
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£128,000
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Caerffili
Cwblhau:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts