Llwybr Pererindod Gŵyr

Mae prosiect Llwybr Pererindod Gŵyr yn ceisio hyrwyddo a dehongli llwybr cerdded 50 milltir o hyd, sy'n cysylltu 17 o eglwysi hanesyddol Gŵyr a chynnwys sawl capel a safle Cristnogol cysegredig eraill ar hyd y ffordd. Bydd y llwybr yn mynd o Ben-clawdd yn y gogledd-ddwyrain, o amgylch y penrhyn, gan orffen yn Eglwys Teilo Sant yn Llandeilo Ferwallt yn y de-ddwyrain.

Ysbrydolwyd y prosiect gan gyfnod hir y cyfyngiadau symud, pan oedd yr eglwysi ar gau ac yn wag, ac eto roedd cerdded yn dod yn fwyfwy poblogaidd, am resymau gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl. Bydd y llwybr cerdded ar hyd Hawliau Tramwy Cyhoeddus, gan gynnwys rhannau o Lwybr Arfordir Cymru, a bydd yn cael ei rannu'n 5 rhan o oddeutu 10 milltir o hyd.

Bydd mapiau a chyfarwyddiadau a gwybodaeth hanesyddol ar gael ar wefannau'r eglwysi, a hefyd ar daflenni wedi'u hargraffu. Bydd paneli dehongli newydd yn cael eu gosod y tu allan i'r eglwysi i ddarparu gwybodaeth hanesyddol i ymwelwyr. Bydd gan y rhain godau QR, a fydd yn darparu dolen i'r wefan am wybodaeth fanylach. Bydd cerddwyr yn gallu stampio eu 'pasbortau pererinion' ym mhob eglwys i nodi eu hymweliad fel sy'n digwydd ar lwybrau pererinion eraill. Bydd hefyd lwybr beicio, er bydd hwn ar hyd ffyrdd (ffyrdd llai lle bo'n bosib) a llwybrau oddi ar y ffordd eraill lle caniateir beicio.

Rhwng 11 a 16 Medi 2022, i gyd-fynd â mis Drysau Agored Cadw, bydd y prosiect yn dathlu lansiad Llwybr Pererindod Gŵyr gydag wythnos Gŵyl Bererindod. Bydd hyn yn cynnwys taith dywys ar hyd rhan o'r llwybr bob dydd, gyda'r eglwysi ar agor i ymwelwyr ar hyd y llwybr, gan gynnig lluniaeth, gwybodaeth a gweithgareddau.  Bob nos bydd gwasanaeth neu ddathliad yn yr eglwys rydych yn ei chyrraedd ar ddiwedd taith cerdded y diwrnod hwnnw. Bydd y nosweithiau hyn yn rhannu thema sy'n ymwneud â phererindodau, e.e. sgwrs ddarluniadol ar bererindodau trwy'r oesoedd, gwasanaeth addoli mewn arddull Celtaidd a Chymanfa Ganu ddwyieithog.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£7744.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Abertawe
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Victoria Thomson
Rhif Ffôn:
01792636992
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts