Llwybrau ac Arwyddion

"Yn 2015, cymeradwyodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri £1.8m (i'r Ymddiriedolaeth) tuag at prosiect a oedd yn cynnwys gwaith cadwraeth treftadaeth, adfer cynefinoedd a mynediad i'r cyhoedd a gwaith ymgysylltu. Gyda £1.5m gan yr Ymddiriedolaeth, cyfanswm cost y prosiect oedd £3.3m. Mae prosiect Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (prosiect ar wahân) yn canolbwyntio ar nifer o welliannau gwerth ychwanegol i'r cyrchfan, yn enwedig o ran elfennau mynediad a hamdden, nad oedd rhai ohonynt yn gymwys o dan y cynnig i Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar y canlynol: 

Prosiect 1: - Argae Dôl y Mynach: mynediad, dehongli, arwyddion, giatiau a llwybrau; - Safle 'Dambusters' yn Nant y Gro: dehongli, arwyddion; - Blychau Pils yr Ail Ryfel Byd: mynediad, dehongli; - Pwll Cwm Elan: mynediad, arwyddion a dehongli; - Awyr Dywyll Elan: maes parcio, dehongli a llwyfan gwylio;

Prosiect 2: - Datblygu tair canolfan i deuluoedd yn Nantgwyllt, Claerwen a Phenbont. 

Prosiect 3: - Datblygu Llwybr Beicio newydd Coetir Elan (Llwybr Glas). 

Prosiect 4: - Arwyddion cyrchfan a byrddau gwybodaeth Awyr Dywyll. "
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£128,000
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Powys
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Eluned Lewis
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts