Llwybrau Bach Arbennig Cymru

Nod y prosiect hwn yw gwneud bywyd yn haws i'r teithiwr annibynnol, gan gynnig canllaw cynhwysfawr i drafnidiaeth gyhoeddus aml-foddol gan gynnwys Trenau Bach Arbennig Cymru. Bydd map ar-lein yn dangos sut y gall teithiwr gynllunio taith benodol; gydag awgrymiadau ar fannau i aros, bwyta ac ymweld â nhw ar hyd y ffordd.

Bydd teithwyr yn gallu ymchwilio i'r llwybr y maent am ei ddefnyddio a'r hyn y maent am ei brofi, gydag amserlenni teithio y gellir eu lawrlwytho.

Bydd y map rhyngweithiol yn cynnwys;

  • Ffordd Cymru,
  • Pwyntiau mynediad meysydd awyr gan gynnwys Manceinion, Lerpwl a Birmingham International a Chaerdydd,
  • Fferïau a llwybrau trenau. Hefyd:
  • Llwybrau bysiau Traws Cymru,
  • Llwybrau beicio,
  • Llwybrau cerdded sylweddol a gwybodaeth am hygyrchedd.

Caiff hyn ei ategu gan waith adnewyddu ar lyfr a gwefan Big Train Little Train.

Bydd y prosiect hefyd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o gyflwyno fersiwn Cymraeg o'r Cerdyn Oyster (Cerdyn Cockle) a fydd yn ddilys ar ffurfiau gwahanol o drafnidiaeth.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£74,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF)
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Claire Britton
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts