Llwybrau beicio oddi ar y ffordd Gŵyr

Bwriad y prosiect hwn yw annog mwy o feicio anffurfiol yn ardal Gŵyr gan ddefnyddio'r rhwydwaith llwybrau ceffyl presennol fel ffordd o fwynhau cefn gwlad a sicrhau cyn lleied o gyswllt â phosib rhwng beicwyr a cheir a cherbydau modur. Bydd beicwyr yn gallu dewis llwybrau a chylchffyrdd byrrach neu deithiau hir (bydd y rhwydwaith cyfan yn 65km o hyd).  Yn ogystal, bydd y prosiect yn gwella'r rhwydwaith yn gyffredinol er lles marchogwyr a cherddwyr.

Bydd y llwybrau beicio a hyrwyddir yn cael eu dangos â chyfeirbyst manwl â marciau sy'n berthnasol i'r llwybrau hyn. Hefyd bydd angen gwneud peth gwaith ar y tir er mwyn clirio llystyfiant.

Caiff y llwybrau eu hyrwyddo trwy'r canlynol:

  • Mapiau pdf y gellir eu lawrlwytho
  • Paneli gwybodaeth mewn lleoliadau strategol (meysydd parcio swyddogol gan amlaf)
  • Arwyddion ar hyd y llwybrau
  • Digwyddiad lansio

 

Elfen fwyaf y prosiect hwn yw addasu'r rhwydwaith o lwybrau ceffyl i alluogi beicwyr i ddefnyddio llwybrau lle nad oes ganddynt hawl i feicio ar hyn o bryd.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£19,400
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Abertawe
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Helen Grey
Rhif Ffôn:
01792 636992
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts