Llwybrau Rheilffordd i Olygfeydd y Cymoedd

Bydd y cais hwn yn darparu adnodd twristiaeth rhagorol a bydd yn gwneud llwybrau sy'n cael eu hyrwyddo yn hygyrch i'r cyhoedd eu mwynhau heb fod angen gyrru i'r cychwyn a dod o hyd i le i barcio. Y syniad yw ei bod yn bosibl mwynhau 'twristiaeth araf' drwy ddefnyddio'r cysylltiadau rheilffordd da rydyn ni'n ffodus o'u cael yn ardal y Grŵp Gweithredu Lleol hwn. Mae twristiaeth wledig gynaliadwy, ac yn benodol ‘twristiaeth araf’, yn egwyddor trefnu ganolog gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac o’r herwydd, mae wrth wraidd yr holl weithgareddau a fwriadir gan y Strategaeth Datblygu Lleol.

Felly, mae gan economi wledig Bwrdeistrefi Sirol Caerffili a Blaenau Gwent ran hanfodol i'w chwarae wrth sicrhau ein bod ni'n datblygu ardal gynaliadwy. Mae datblygu prosiect sy'n cyd-fynd yn strategol â nodau ac amcanion sy'n ystyried y galw cynyddol am opsiynau twristiaeth arloesol cost isel wrth gynnal anghenion darparwyr twristiaeth a lletygarwch wedi bod yn allweddol i ddatblygiad y prosiect hwn. Cyflwyno opsiwn i ddenu ymwelwyr dydd i archwilio’r cefn gwlad heb effeithio ar y rhwydweithiau ffyrdd a gan lleihau allyriadau carbon.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£21,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Caerffili
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Kevin Eadon-Davies
Rhif Ffôn:
01443 838632
Email project contact
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts