Bydd y prosiect hwn yn creu llwyfan digidol ar y we i gefnogi cyfres fer o straeon gyda Mistar Urdd fel y prif gymeriad. Bydd y straeon yn cael eu hanelu at ddarllenwyr cynnar a siaradwyr ail iaith yn yr ysgol gynradd. Bydd dau or llyfraun cael eu cynhyrchu mewn print au dosbarthu mewn ysgolion lleol i hyrwyddor prosiect ei hun. Hefyd byddant yn hybu Eisteddfod yr Urdd 2018 a fydd yn cael ei chynnal yn Llanelwedd ym mis Mai 2018.
Bwriad y prosiect yw cyflawni dau nod yn yr ardal:
- Cefnogi ac annog rhieni nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddarllen gydau plant yn Gymraeg. Defnyddio technoleg ddigidol i apelio at bobl ifanc a chyrraedd cynulleidfa ehangach. Bydd y dechnoleg yn helpu rhieni i fod yn fwy hyderus wrth ddarllen yn Gymraeg gydau plant, pa un a ydynt yn cael addysg Gymraeg ai peidio.
- Cyflwyno gwaith Urdd Gobaith Cymru i deuluoedd yr ardal. O wneud hyn bydd mwy o blant ifanc yn gallu manteisio ar yr hyn sydd gan yr Urdd iw gynnig. Hefyd bydd ganddynt gyfleoedd i gymdeithasu trwyr Gymraeg. Mae hwn yn arbennig o bwysig yn 2018 wrth i Eisteddfod yr Urdd ddod i dde Powys am y tro cyntaf ers deugain mlynedd. Nid yw llawer o rieni ac athrawon yn gyfarwydd gwaith ehangach y mudiad. Dyma ffordd wych i ysgogi mwy o bobl i gyfranogi ac ymddiddori yng ngwaith yr Urdd.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£9050.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Powys
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 5
- Mesur:
-
19.2
- Arwain, the LEADER Programme in Powys - Case Studies
- The Urdd Eisteddfod Digital Reading Book 2018
Cyswllt:
- Enw:
- Bethan Price
- Rhif Ffôn:
-
01597 827378
- Cyfeiriad e-bost:
- rdp@powys.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts