Mabwysiadu rwydweithiau synwyryddion ‘Rhyngrwyd y Pethau’ (IoT) yn gynnar ar ffermydd i hysbysu a rhybuddio ffermwyr er mwyn gwella diogelwch ar y fferm

Gan fod ffermydd yn aml i’w cael mewn llefydd anghysbell, yn draddodiadol bu’n anodd gweithredu dyfeisiau diogelwch yn effeithiol ar ffermydd. Fodd bynnag, gallwn yn awr ddefnyddio pyrth rhwydwaith ardal eang o bell (LoRaWAN) i fynd i’r afael â’r problemau cysylltedd traddodiadol a darparu rhwydwaith dibynadwy er mwyn gallu cynhyrchu gwybodaeth amser real. Mae’r dechnoleg yn galluogi dyfeisiau i gyfathrebu â’i gilydd drwy anfon ychydig bach o ddata yn aml dros bellteroedd o hyd at 15km yn ddibynnol ar y llinell welededd. Gellir rhaglennu synwyryddion LoRaWAN i rybuddio ffermwr gan ei hysbysu bod rhywbeth wedi symud a gallai hynny arwain at fod llai o gerbydau, tanwydd a da byw yn cael eu dwyn.

Bydd y prosiect dwy flynedd hwn yn treialu defnyddio synwyryddion LoRaWAN i wella diogelwch ar draws pump o ffermydd yng ngogledd Cymru. Bydd Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn gweithio’n agos ar y prosiect oherwydd y gallai’r dechnoleg hon ddarparu iddynt wybodaeth werthfawr, fel stamp amser, i’w helpu yn ystod yr oriau holl bwysig cyntaf ar ôl i ddigwyddiad neu drosedd gael ei riportio.

Rhoddir blaenoriaeth i ddau faes yn y prosiect:

  • Offer ffermydd - Bydd synwyryddion olrhain yn cael eu gosod ar offer gwerthfawr fel beiciau modur 4 olwyn, trelars ayb. gan roi rhybudd i’r ffermwr os ydynt yn symud yn ystod oriau penodol. Bydd y synhwyrydd wedyn yn olrhain lleoliad y cerbyd neu’r offer pan na fydd wedi mynd yn rhy bell o’r fferm. Gellid datblygu hyn ymhellach pe byddai rhwydwaith ehangach o byrth LoRaWAN yn cael ei sefydlu ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig oherwydd fe allai offer wedi’u dwyn gael eu codi gan byrth eraill a gellid olrhain eu symudiadau ymhellach i ffwrdd o’r fferm.
  • Monitro statws ar agor/ar gau amrywiol adeiladau ar ffermydd – Caiff synwyryddion eu gosod ar ddrysau a giatiau’r adeiladau fferm pwysicaf, a bydd hyn yn caniatáu i’r ffermwr fonitro a ydynt ar agor ynteu ar gau. Gall hyn fod yn ddefnyddiol dros ben i ffermwyr sydd â llwybrau cyhoeddus yn rhedeg wrth ymyl caeau neu drwy iard y fferm. Ar gyfer synwyryddion a osodir ar giât caeau, gellir rhaglennu’r rhybuddion i gael eu hanfon i ddyfais symudol gan alluogi’r ffermwr i ymateb yn gyflym. Hefyd, byddai’n hysbysu’r ffermwr pe byddai giât yn cael ei hagor pan gaiff anifeiliaid eu dwyn, a gall fod yn stamp amser.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£39,930
Ffynhonnell cyllid:
PAE
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Geraint Hughes
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts