Maes Chwarae Talybont

Nid yw pentref Talybont erioed wedi cael cae chwarae i'r gymuned, ac ar ôl i dimau pêl-droed yr oedolion ac ieuenctid y pentref golli'r defnydd o’r cae y roeddent wedi'i ddefnyddio ers rhai blynyddoedd, fe wnaethant benderfynu chwilio am dir addas i'w ddatblygu.

Pwrpas y prosiect felly oedd ymgymryd ag ymchwil a fyddai'n arwain at greu cae newydd yng nghanol y pentref, ac ar gael i'r gymuned gyfan. Ar ôl nodi tir addas, roedd angen gwaith sylweddol ar y tir i'w ddatblygu'n faes chwarae.

Yn dilyn hyn, comisiynwyd , Earth Science Partnership i archwilio natur y tir dan sylw, yn enwedig mewn perthynas â draenio tir. Ymgymerwyd â'r gwaith hwn yn ystod Chwefror-Ebrill 2019. Roedd disgwyl i ESP wneud ymchwil ychwanegol ac, o'r herwydd, cynigiwyd llunio cynllun draenio gan GEO Turf. Fodd bynnag, penderfynodd y Gymdeithas nad oedd y prosiect yn ymarferol, felly, ni aeth yr elfen hon o'r prosiect yn ei blaen a daeth y prosiect i ben.

I ddechrau'r astudiaeth ddichonoldeb, comisiynwyd GEO Turf Consulting a derbyniwyd adroddiad cynhwysfawr ar ddiwedd 2018. Yn ystod y broses cynhaliwyd cyfarfod agored llwyddiannus ym mis Ionawr 2019, a fynychwyd gan dros wyth deg o drigolion y gymuned.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£6,774
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Cynnal y Cardi
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts