Maes Parcio ac Arwyddion (Cwm Clydach)

"Ar hyn o bryd, mae'r gwaith haearn wedi'i guddio y tu ôl i safle Cemex ac mae'n rhaid i ymwelwyr ddilyn llwybr anuniongyrchol er mwyn cyrraedd y safle. Mae eu cyfle cyntaf i weld y safle wedi'i lesteirio gan un o beilonau'r Grid Cenedlaethol. Trosglwyddwyd perchenogaeth y safle i Gyngor Sir Fynwy ac er mwyn manteisio ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â chwblhau'r A465, mae'r Awdurdod Lleol yn awyddus i greu cyrchfan ansawdd uchel i ymwelwyr er mwyn datblygu potensial y Cwm fel adnodd twristiaeth ddiwylliannol, gan greu porth i ymwelwyr a thrigolion lleol gyrraedd pen dwyreiniol y Cwm. Felly mae'r Awdurdod Lleol yn chwilio am gyllid i ariannu'r gwaith canlynol:

• atgyfnerthu ac ehangu'r ddarpariaeth parcio ceir, gan greu ardal picnic newydd a gwaith tirlunio gan gynnwys gwaith i blannu coetir brodorol; 

• tirlunio nodweddion diwydiannol blaenorol safle Cemex ac ailbroffilio'r ardal o flaen y gwaith haearn presennol er mwyn cynnig tirlun parhaus a gwell ar gyfer y gwaith haearn, yn cynnwys mynediad newydd i ymwelwyr, creu ardal berfformio, ardal picnic newydd ac ardal i'w defnyddio'n achlysurol gan gerbydau / lleoedd parcio ychwanegol.

• ailgyflunio'r arwyddion a'r deunydd dehongli presennol i ymwelwyr ac ychwanegu arwyddion a deunydd newydd. "
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£128,000
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Torfaen
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Matthew Lewis
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts