Mavi Properties Wynnstay - The Three Eagles

Nod y prosiect yw trosi Wynnstay Arms, sef Tafarn Gradd 2 rhestredig o'r 17eg Ganrif, sy'n wag ar hyn o bryd ar Stryd y Bont yn Llangollen i greu bwyty a bar coctêl cyrchfan ar gyfer 110 o bobl.  

Caiff yr adeilad ei drosi mewn ffordd chwaethus, gan gadw cymeriad traddodiadol y dafarn o'r 17eg ganrif a sawl un o'r nodweddion fel y llefydd tân a'r trawstiau panelog.

Mae'r bwyty dros 3 llawr. Bydd y llawr gwaelod yn cynnwys lle i 70 o bobl fwyta, ardal gegin agored (lle y bydd cwsmeriaid yn gallu gweld y cogyddion), ardal seddau gwledda / bythau â naws hamddenol, ond gan gadw elfennau ansawdd uchel y lleoliad cyffredinol.

Bydd lle i 40 o bobl fwyta ar y llawr cyntaf, gydag awyrgylch mwy coeth a sylw penodol i fanylder a seigiau premiwm. Bydd y bar coctêl / gin ar yr ail lawr, mewn arddull gothig, â seddau Chesterfield.

Y tu ôl i'r adeilad, ceir cwrt mawr sy'n wynebu tua'r de a gaiff ei drosi i greu lle er mwyn i hyd at 60 o bobl fwyta. Bydd popty pitsa yn defnyddio tân coed yn y cwrt hefyd, a distyllfa gin ffug yn y bar awyr agored. Mae selar fawr yn rhan o'r islawr a cheir cegin fawr yn y cefn â mynediad hawdd i'r bwyty. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£120,182
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
Ardal:
Wrecsam
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Shelley Davies
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts