Maer prosiect hwn yn edrych ar Safonaur Iaith Gymraeg ar gyfer Cyngor Sir Gaerfyrddin ac yn bwriadu mynd ir afael phrif weledigaeth y Strategaeth Hyrwyddo yn yr hirdymor, i anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir. Un or pump amcan dan y weledigaeth hon yw targedu ardaloedd daearyddol penodol o fewn y sir, naill ai am eu bod yn cynnig potensial i ddatblygu neu yn achosi pryder yn ieithyddol, i gynyddu niferoedd syn medru ac yn defnyddior Gymraeg yn yr ardaloedd hynny.
O edrych ar gyfrifiad 2011, dewiswyd yr ardaloedd Castellnewydd Emlyn, Caerfyrddin, Llanfihangel-ar-Arth, Llandeilo, Llanymddyfri, Dyffryn Aman, Pen Uchaf Cwm Gwendraeth a Phen Isaf Cwm Gwendraeth gan y Fforwm Strategol, fel ardaloedd sydd heriau ieithyddol ond hefyd potensial i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Bydd y prosiect hwn yn penodi 3 swyddog llawn amser i weithio yn ardaloedd y 3 Mentr i hyrwyddor prosiect yn yr ardaloedd blaenoriaeth. Yn ail ran y prosiect, bydd yr ymgeisydd yn ymgymryd ag Academi Arweinwyr Cymunedol ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 30 oed. Nod y prosiect yw hyfforddi pobl ifanc i ddod yn ddarpar arweinwyr cymunedol drwy roi iddynt y sgiliau perthnasol sydd eu hangen arnynt.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£219,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Sir Gaerfyrddin
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Grant Cole
- Rhif Ffôn:
-
01267 242431
- Cyfeiriad e-bost:
- gcole@sirgar.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts