Menter Coed (Sir Benfro)

Canolfan Goetir Cilrhedyn: Dull newydd

Defnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Goetir Cilrhedyn i hwyluso, cefnogi a datblygu pobl i ddefnyddio adnoddau naturiol y rhanbarth y well.

Rydym yn cynnig:

Bydd cydlyniad y prosiect ehangach yn cael ei weithredu ar y safle hwn yn ogystal â gweithgareddau Parc Cenedlaethol, i greu canolfan reoli a sicrhau bod gwaith partneriaeth yn cael ei hyrwyddo ac adnoddau wedi eu rhannu ar gyfer gwerth ychwanegol.

Gallai'r safle ddarparu lle, cyfleusterau sychu ac odyn a chyngor a chefnogaeth dechnegol ar gyfer trosi coed o goedwigoedd Sir Benfro gyda chysylltiadau i farchnadoedd gwerth uwch ar draws Cymru.  

Prif ffocws yn y safle yma fydd model deori busnes coetir a choed, yn galluogi cyfleoedd ar gyfer pobl leol a hyfforddeion sydd wedi bod trwy'r model hyfforddi Tir Coed i gychwyn eu menter eu hunain trwy gael mynediad at ofod gweithdy a chefnogaeth menter.

•Prosiectau ymchwil – cysylltiadau i'r rhaglenni Coed Cymru ehangach, e.e.:
-Pridd a dŵr
-Addasu i newid hinsawdd
-Asesiad ecosystem
•Arloesi gyda choed 
•Gwaith saer ac adeiladu
•Gwasanaethau cadwraeth a choedwigaeth
•Tanwydd pren

Cynigir gofod gweithdy a chefnogaeth pob blwyddyn, gyda hyfforddeion yn gallu cael mynediad at y ddarpariaeth yma am nifer o flynyddoedd, yn dilyn hynny bydd symud ymlaen i Barc Menter Trecŵn ac unedau gyda chymhorthdal yn cael ei ystyried.  

Coetir Trecŵn: Hyfforddiant a ChoedDaliad

Coedwigaeth 400 acer sydd heb ei reoli ers rhai blynyddoedd gydag adeiladau wedi eu gwasanaethu ond sy'n wag ar hyn o bryd y gellid eu defnyddio fel safleoedd hyfforddi a chynhyrchu. Mae yna ymroddiad gan y tîm rheoli i ddefnyddio rhywfaint o'r pren i ddarparu budd i'r gymuned leol, gan ddefnyddio contractwyr a phroseswyr lleol a darparu cyfleoedd hyfforddi. Gallai hyn ddarparu cynhwysedd pwysig yn y rhanbarth i arwain y prosiect ymlaen.

Ffynhonnell coed - Mae'r safle yn cynnig nifer fawr o bren i'w gynnwys yn y gadwyn gyflenwi leol dros nifer o flynyddoedd a'i brosesu ar y safle ar gyfer gwerth ychwanegol. Gellid darparu'r pren yma i Ganolfan Goetir Cilrhedyn i gefnogi mentrau newydd yn ogystal â choed o goetiroedd ar draws y rhanbarth.

Cynhyrchu pren - Gallai adeiladau gwag hefyd fod ar gael i'w defnyddio fel gweithdai ac i letya offer prosesu pren gan sicrhau yr ychwanegir gwerth i'r pren sy'n cael ei echdynnu ar draws safle Trecŵn.
Safle hyfforddi - Mae'r lleoliad hwn yn cynnig amrywiaeth eang o safleoedd hyfforddi ar gyfer gweithgareddau rheoli coetir a chyfleoedd am gynnydd.
Rheoli Coetiroedd - Bydd buddion i goetiroedd eraill ar draws Sir Benfro yn cael eu galluogi trwy weithgareddau elusennol y ddau sefydliad partner. 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£7,500
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Ffion Farnell
Rhif Ffôn:
01970 636 909
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.tircoed.org.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts