Mae'r diwydiant bwyd yng Nghymru yn dioddef o ddiffyg arbenigedd technegol o fewn diwydiant i helpu i ddatblygu gweithgarwch ac arloesedd cynhyrchu bwyd. Mae hyn yn effeithio ar bob rhan o Gymru ond yn arbennig ardaloedd gwledig a'r Cymoedd lle mae cynhyrchiant bwyd wedi bod yn sbardun economaidd pwysig yn y gorffennol.
Bydd prosiect HELIX yn ceisio datblygu a darparu gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth sy'n canolbwyntio ar arloesi, strategaeth fwyd ac effeithlonrwydd a fydd yn cynyddu cynhyrchiant ac yn gweld lleihau gwastraff yn y gadwyn fwyd.
Bydd y prosiect hwn yn ffurfio rhan o ddarpariaeth Arloesi Bwyd Cymru felly mae'n gallu cwmpasu Cymru gyfan.
Bydd prosiect HELIX yn casglu gwybodaeth am gynhyrchu bwyd, tueddiadau a gwastraff o bob rhan o'r byd ac yn trosglwyddo'r wybodaeth i gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd, boed yn gwmnïau newydd neu gwmnïau sydd wedi ennill eu plwyf o Gymru, gan roi'r cyfle gorau ar gyfer twf ac effaith ar economi Cymru a'r UE.
Caiff cynnwys trosglwyddo gwybodaeth ei ddarparu fel ymyriadau tymor byr, tymor canolig a thymor hir, yn dibynnu ar y diffyg mewn gwybodaeth am y diwydiant ond bydd yn ymdrin â phynciau mor amrywiol ag ailfformiwleiddio cynnyrch a lleihau gwastraff prosesu.
Bydd prosiect HELIX yn cael effaith sylweddol ar greu a chadw swyddi, lleihau gwastraff, a datblygu busnesau newydd.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£11,875,586
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cynllun arloesedd a throsglwyddo gwybodaeth
- Ardal:
-
Bro Morgannwg
- Cwblhau:
-
- Lewis Pies
Cyswllt:
- Enw:
- Amanda Reed
- Cyfeiriad e-bost:
- areed@cardiffmet.ac.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts