Môr Hapus

Nod prosiect Môr Hapus yw cynyddu ymwybyddiaeth o systemau ecolegol arfordirol a'r effaith amgylcheddol rydym ni fel bodau dynol yn ei chael arnynt drwy ein prosesau a'n gweithredoedd. Rydym am helpu i hyrwyddo camau gweithredu cadarnhaol drwy ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd a'u galluogi i gael effaith gadarnhaol a diogelu treftadaeth naturiol eu hardal leol.

Rydym yn frwd dros y môr a gweithgareddau sy’n ymwneud â’r môr, sy'n golygu ein bod yn frwd dros yr amgylchedd ac rydym yn ymwybodol o sut gall ein gweithgareddau fod yn niweidiol. Rydym wedi sylweddoli ein bod yn aml yn dysgu sut i nofio a bod yn ddiogel o amgylch y môr; fodd bynnag, nid ydym bob amser yn gwybod sut i'w warchod. Mae bod ar y traeth yn rheolaidd wedi dangos i ni fod Gŵyr yn ardal sydd â photensial anhygoel ar gyfer addysg wyddoniaeth a gweithgareddau awyr agored sy'n canolbwyntio ar amddiffyn y môr, rhoi gwybod i bobl leol sut i wneud hynny, rhannu prosesau ecolegol gyda nhw, a hyrwyddo lles cymunedol. Mae hyn wedi ein hysbrydoli i greu Prosiect Môr Hapus, sydd, yn ein barn ni, yn arbennig o berthnasol yn dilyn y pandemig gan ei fod yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu fel cymuned.

Rydym yn bwriadu cyflawni’n nodau drwy drefnu gweithdai sy'n rhad ac am ddim i'w mynychu. Bydd y gweithdai hyn yn cynnwys glanhau traethau, archwilio pyllau trai a gweithgareddau adnabod rhywogaethau, trafodaethau am ecoleg arfordirol y safle a thrafodaeth am ddiogelwch dŵr a goroesiad arfordirol. Bydd rhai gweithdai’n cynnwys casglu sbwriel a chreu celf gydag ef i ailddefnyddio a lleihau gwastraff. Byddwn hefyd yn addysgu technegau samplu, mapio bïotop ac adnabod rhywogaethau gan ddefnyddio arolygon trawslunio a chwadratau ar hyd y traeth.

Byddwn yn gwneud hyn mewn ffordd arloesol sy’n llai niweidiol i'r amgylchedd drwy hyrwyddo'r defnydd o gychod, padlo bwrdd ar eich traed a thrafnidiaeth drydan i leihau allyriadau CO2 a'n hôl troed carbon, gan ei wneud yn hygyrch i bobl ag anableddau. Bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth i'r ardal darged a phobl leol drwy rymuso unigolion a'r gymuned, gan roi gwybodaeth iddynt a set newydd o sgiliau y gallant eu defnyddio. Bydd lefel uwch o ddealltwriaeth o'r amgylchedd arfordirol yn annog pobl i fabwysiadu arferion ac ymddygiadau sy’n fwy cynaliadwy. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddiogelu'r dreftadaeth naturiol o amgylch Gŵyr a gwarchod bioamrywiaeth, gan ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol. Bydd defnyddio adeilad sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, byrddau padlo, cludiant cyhoeddus, a chynnal gweithdai yn lleol yn lleihau'r ôl troed carbon.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£10000.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Abertawe
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Vicki Thomson
Rhif Ffôn:
01792636992
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts