Natur Wyllt

Bydd y prosiect yn datblygu dull peilot seiliedig ar ardal (pentref neu dref) i ddod yn ardal gyfeillgar i beillwyr. Bydd yn ymgysylltu gyda rhanddeiliaid i godi ymwybyddiaeth or angen am beillwyr a pha gamau y gall pob un ohonom eu cymryd i helpu wrthdroir dirywiad mewn peillwyr. Gan adeiladu ar brosiect BEES (Breeding, Education, Environment & Skills Share) ac yn gweithion uniongyrchol i gefnogir proseict cydweithredu a gymeradwywyd gan LAG, bydd yn cysylltun uniongyrchol i gefnogir cynnydd yn nifer gwenynwyr, datblygu BEES ac addysg mewn ysgolion cynradd. Allbynnau allweddol y prosiect fydd:

  • Datblygu partneriaeth gyda Sir Fynwy Cyfeillgar i Wenyn a grwpiau eraill i ddatblygu dull gweithredu arddull ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac addysg am yr angen am beillwyr.
  • Bydd y bartneriaeth yn cydweithio i sefydlu rhaglen beilot o ymgysylltu ar gyfer (i ddechrau) un dref yn Sir Fynwy fel tref gyfeillgar i beillwyr - yn rhydd o neoicotionoidau ac yn edrych ar opsiynau eraill fydd yn cefnogir peillwwyr.
  • Datblygu rhaglen y gellir ei hatgynhyrchu mewn trefi eraill.
  • Darparu dull intgredig i ddatblygu polisi o fewn Cyngor Sir Fynwy a sefydliadau perthnasol eraill er mwyn mabwysiadu polisi cyfeillgar i beillwyr;
  • Gweithio i sefydlu cod gweithredu y gall gweithredwyr gyfeirio ato i sicrhau arferion gwaith da. Bydd hyn yn cynnwys datblygu dealltwriaeth a newid y system o dorri ymylon ffyrdd syn gyfoethog mewn rhywogaethau.
  • Cefnogi datblygu hyfforddiant i weithwyr Cyngor Sir Fynwy (ac eraill perthnasol) wrth ddeall pa ardaloedd na ddylid eu torri a chanlyniad systemau rheoli presennol ar yr amgylchedd.
  • Codi ymwybyddiaeth o fewn y cymunedau drwy ddulliau perthnasol ac amrywiol. • Datblygu cysylltiadau a chefnogaeth i brosiect cyfredol BEES gyda rhaglen Natur Wyllt.

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£45,424
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Dyffryn Wysg
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Deserie Mansfield
Rhif Ffôn:
01633 748319
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts