Cyflwyno methodoleg arbrofol o gefnogi a datblygu cadwyni cyflenwi busnes seiliedig ar natur yw’r amcan, gyda’r nod yn y pen draw o gryfhau economi buses seiliedig ar natur, ac felly cyfrannu at gynyddu cydnerthedd economaidd gwledig.
Yn fanylach, mae’r prosiect yn bwriadu:
- Rhoi prawf ar ein techneg arfaethedig ar gyfer mapio busnes seiliedig ar natur, gan gynnwys yr ymchwil i ddarganfod ac adnabod busnesau seiliedig ar natur a gwaith masnachol, a chynhyrchu map busnes sy’n cynnwys ffeithluniau ac sy’n rhwydd ei ddefnyddio.
- Llunio diffiniad o fusnes seiliedig ar natur y teimlwn ei fod yn ddibynadwy ac yn ystyrlon (e.e. gellir dweud bod fferm cywion ar raddfa farw yn seiliedig ar natur, ond ni fyddai’n cyd-fynd â’n gwerthoedd o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy).
- Rhoi prawf ar ddull arfaethedig i adnabod ac esbonio cadwyni cyflenwi’r busnesau seiliedig ar natur rydym yn eu mapio, a’n dull o greu a chryfhau cysylltiadau newydd rhwng y busnesau a’u prynwyr (y darparwyr a’r archwilwyr).
- Dechrau creu ‘cwch gwenyn’ o fusnesau seiliedig ar natur ym Mhowys, lle mae busnesau yn fwy ymwybodol o eraill yn y sector yma, yn gallu archwilio cyfleoedd i gydweithredu, a lle gall darpar brynwyr (yn bobl leol ac yn ymwelwyr) ddarganfod yn rhwyddach y cynhyrchion a’r gwasanaethau seiliedig ar natur sydd ar gael ym Mhowys
Mae’r prosiect yn cynnwys proses pedwar-cymal dros gyfnod o 12 mis:
- Cwmpasu: adnabod busnesau seiliedig ar natur ym Mhowys, adnabod unigolion allweddol - arloeswyr busnes, entrepreneuriaid ifanc, rhai sy’n ‘newid bywyd’ gan fynd i gyfeiriadau gwahanol o ran gwaith; adnabod prynwyr a chadwyni cyflenwi - ble maen nhw? Beth maen nhw’n chwilio amdano?
- Cyfle: Dadansoddi bylchau a chyfleoedd yn y ddarpariaeth; Cyfarfodydd a thrafodaethau gyda phrynwyr allweddol a sefydliadau yn y gadwyn gyflenwi e.e. siopau awyr agored, dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol; achlysur Generadu, yn arddangos busnesau seiliedig ar natur ac yn hwyluso rhwydweithio rhwng busnesau.
- Tyfu: Ymuno â darparwyr a phrynwyr ar-lein gan ddefnyddio cyfeiriaduron ar-lein Nearly Wild Exploration; cynhyrchu deunyddiau i’w harddangos (blogiau, vox pops, pod-ddarllediadau, ac ati) gan gynnwys darparwyr a phrynwyr; cynorthwyo rhwydweithio parhaus tuag at adnabod cyfleoedd i gydweithredu.
- Adrodd: Adrodd ar ganlyniadau a dysgu trwy sawl cyfrwng gan gynnwys crynodeb ysgrifenedig, fideo lled-amrwd, golwg/ffeithlun.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£31630.37
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Powys
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 2
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Louise Nicholson
- Rhif Ffôn:
-
01597826721
- Cyfeiriad e-bost:
- rdp@powys.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts