Neuaddau ar y Cyd

Mae tua 80 o gyfleusterau cymunedol yn Sir Fynwy a 15 o fewn wardiau gwledig Casnewydd. Mae’r cyfleusterau hyn yn asedau gwerthfawr i’r cymunedau ac yn aml nid ydynt yn cael eu defnyddio’n llawn. Mae pob un yn tueddu i weithio ar wahân, felly yn aml y maent yn manteisio ar unrhyw gyfleoedd sydd ar gael i rannu eu profiad eu hunain a chyfrannu at ‘lesiant’ yr holl gyfleusterau cymunedol eraill yn yr ardal.

Bydd y prosiect mewn 3 cam dros 12 mis. Os nad oes budd ar ddiwedd cyfnodau 1 a/neu 2, daw’r prosiect i ben.

Cam 1

  • Mireinio’r rhestr bresennol o gysylltiadau cyfleusterau cymunedol, gan ystyried GDPR a setiau data.
  • Ffurfio grŵp llywio i symud y prosiect ymlaen (Yr argymhellion yw dau swyddog RDP a phump aelod allanol, yn bennaf o bwyllgorau cyfleusterau cymunedol blaengar).
  • Paratoi holiadur cyfleusterau cymunedol.
  • Cysylltu â phob pwyllgor i ddeall eu sefyllfa, a’r Rhannu Ystyriaethau ehangach
  • Gwerthuso’r canfyddiad uchod, ac argymell y camau nesaf.

Cam 2

  • Ymgysylltu gydag arbenigwyr i gefnogi’r Rhannu Ystyriaethau, yn seiliedig ar y canfyddiadau o Gam 1
  • Paratoi rhestr cysylltiadau o bob cyflenwr posibl a’u parodrwydd i gyflenwi “cyflenwadau cyfun” ar gyfer cyfleustodau tebyg i danwydd a band eang.
  • Cynnig cyngor ac anogaeth i holl aelodau pwyllgorau cyfleusterau cymunedol sydd â diddordeb, o amgylch y canfyddiadau cymorth arbenigol.
  • Darparu cyngor ar gyllido i helpu gwella’r cyfleusterau e.e. digidol, ynni, cyfleusterau a hygyrchedd ac yn y blaen.

Cam 3

  • Ffurfio menter gymdeithasol, gyda strwythur ariannol a’r ffynonellau gofynnol o refeniw i symud â’r prosiect hwn ymlaen mewn modd cynaliadwy.
  • Creu storfa dogfennau, er enghraifft Microsoft Teams.
  • Sefydlu grŵp cyfryngau cymdeithasol e.e. grŵp Facebook caeedig ar gyfer rhannu syniadau, neu hyd yn oed Microsoft Teams ac yn y blaen.
  • Annog y grŵp i fynychu neu baratoi eu sesiynau hyfforddiant eu hun, tebyg i’r rhai a ddarperir gan brosiect clwstwr digidol Llanofer ar bynciau tebyg i GDPR, iechyd a diogelwch, llesiant a hyfforddiant gwefan. Gall y gymuned ehangach a busnesau lleol ddefnyddio’r hyfforddiant.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£16,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Dyffryn Wysg
Cwblhau:
Thema:
4
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Mark Lloyd
Rhif Ffôn:
07872696154
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://monmouthshire.biz/project/halls-together/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts