Rhoi hwb sylweddol i ddatblygu a sicrhau mynediad haws at wasanaethau mewn ardal wledig. Mae’r mwyafrif helaeth o drigolion ardaloedd gwledig megis Llŷn yn berchen ar geir. Mae hi’n anodd iawn i’r bobl hynny sy’n byw y tu allan i’r prif drefi a phentrefi gael gafael ar wasanaethau heb gerbyd. Mae hyn yn achosi anawsterau sylweddol i bobl ifanc o ran cael gwaith a hyfforddiant, ac i’r rheini sy’n cael eu hatal rhag gyrru o ganlyniad i salwch, problemau golwg, pobl anabl a’r henoed.
Mae dibyniaeth fawr ar gerbydau petrol a disel ar hyn o bryd. Mae angen i fudiad trafnidiaeth fel O Ddrws i Ddrws, sy’n uchel ei barch yn y gymuned, arwain y ffordd a defnyddio ceir trydan mewn ardaloedd gwledig.
Nod y prosiect hwn yw prynu car trydan sydd wedi’i addasu er mwyn i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn allu ei ddefnyddio, a’i ddefnyddio i gludo pobl sy’n ei chael yn anodd teithio fel arall yn ardal Llŷn.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£35,471
- Ffynhonnell cyllid:
-
Y gronfa datblygu cymunedau gwledig
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Enid Jones
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts