Oakview - Prosiect Datblygu

Oakview Farm yw prif ddaliad uned eidion a defaid sydd wedi'i lleoli yn Nhrefyclo, Powys. Mae'r busnes yn cael ei redeg gan y teulu Pugh - David a Christine a'u meibion Robert, Richard a Matthew. Mae gan y meibion bartneriaid a theuluoedd eu hunain.
Mae'r busnes yn gweithredu o dri daliad – Treburvaugh, Great Marston ac Oakview ac ymhen amser bydd angen iddo gynhyrchu digon o incwm i gefnogi 4 cartref.

Mae'r teulu wedi ystyried ffrydiau incwm eraill, i wneud yn iawn am ostyngiad diweddar mewn trosiant, ac wedi nodi cyfle masnachu gyda Stockcroft Ltd i fagu a phesgi moch masnachol lles uchel i'w cyflenwi'n uniongyrchol i Waitrose a M&S. Bydd y fenter hon yn cael ei gweithredu o dan gontract gyda Stockcroft Ltd a fydd yn cadw perchnogaeth o'r moch tra bod y Pughiaid yn magu'r stoc o 4 wythnos oed (7kg) nes eu lladd (110kg).
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£174,231
Ffynhonnell cyllid:
Grant Cynhyrchu Cynaliadwy
Ardal:
Powys
Cwblhau:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts