Mae NDCSA, y gymdeithas ac elusen gymunedol syn gweithredu Canolfan Gymunedol Bloomfield House, yn bwriadu sefydlu Oergell a Bwtri Cymunedol parhaol cyntaf Cymru. Maer gymdeithas yn chwilio am gyllid i gyflogi Cydlynydd Prosiect rhan amser i lywior prosiect am 2 flynedd. Mae Oergelloedd Cymunedol yn ffordd arbennig o stopio bwyd da rhag mynd ir bin. Fei cedwir mewn llefydd cyhoeddus, hygyrch, gan wneud bwyd dros ben darfodadwy ar gael ir cyhoedd. Mae bwyd dros ben yn cael ei ddarparu gan fusnesau lleol neur cyhoedd ac ar gael i aelodaur gymuned. Maent yn gweithio ar sail gonestrwydd. Bwriad y gymdeithas yw cyflogi Cydlynydd rhan amser i ymgysylltu gwirfoddolwyr, sefydlur prosiect yn Bloomfield ac i gyflwynir cysyniad oergell gymunedol i Sir Benfro. Bydd gofyn ir Cydlynydd hefyd greu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn Bloomfield yn defnyddio rhai or eitemau a roddwyd or oergell gymunedol ac i sefydlu rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£40,009
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Sir Benfro
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 3
- Mesur:
-
19.2
- Narberth Community Fridge
Cyswllt:
- Enw:
- Janine Perkins
- Rhif Ffôn:
-
01834 860293
- Cyfeiriad e-bost:
- Narberth.leraning@pembrokshire.gov.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.bloomfieldcommunitycentre.co.uk
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts