Pantri Cymunedol

Nod y prosiect yw gweithio gyda phartneriaid yng ngogledd y sir i sicrhau bod pobl, sy’n wynebu cyfnodau anodd, yn cael bwyd maethlon a hynny drwy dreialu gwahanol fodelau o oergelloedd a phantrïoedd cymunedol. Nod arall y prosiect yw rhannu ein profiadau er mwyn cefnogi prosiectau sy’n dod i’r amlwg ledled Sir Fynwy. Mae gan y prosiect nifer o amcanion gan gynnwys:

  • Mynd i’r afael â diffyg diogeledd bwyd
  • Gweithio’n agos â phartneriaid i ddeall eu hanghenion a’u helpu i gyrraedd eu defnyddwyr
  • Cryfhau’r gallu mewn cymunedau i gefnogi pobl i fwyta’n dda drwy ddarparu Oergell Gymunedol sy’n gallu storio bwyd ffres a phrydau parod maethlon yn ddiogel
  • Sicrhau bod y prosiect yn cael ei gydnabod gan roddwyr a chymunedau yn bartner y gellir ymddiried ynddo ar gyfer derbyn a dosbarthu rhoddion bwyd* gan archfarchnadoedd, y cyhoedd, ffermydd, rhandiroedd a gerddi [*ffrwythau a llysiau ffres, bwyd llaeth neu fwyd sych]
  • Rhoi diben arall i wastraff bwyd gan ei arbed felly rhag safleoedd tirlenwi â’r allyriadau CO2 cysylltiedig
  • Cynyddu nifer y bobl sy’n gallu bwyta 5 y dydd
  • Ychwanegu gwerth i wastraff bwyd gan ei drawsnewid i brydau parod maethlon
  • Archwilio’r posibiliadau o ran rhannu sgiliau megis coginio, cyllido a chadw bwyd
  • Cefnogi teuluoedd i dyfu rhagor o fwyd gartref a hynny drwy feithrin sgiliau drwy ein ‘mannau tyfu cymunedol’ a’n rhwydwaith ‘Bwyd am Byth’
  • Newid y berthynas ag archfarchnadoedd er mwyn sicrhau nad ydym yn cael ein hystyried yn dderbynwyr goddefol elusennau
  • Ymchwilio i ddulliau o wneud y gwaith yn hunangynhaliol gan gynnwys creu incwm, er enghraifft drwy dâl aelodaeth 
  • Rhannu’r hyn rydym wedi ei ddysgu yn sgil rheoli cegin gymunedol ers dros bedair blynedd er mwyn cefnogi prosiectau newydd ledled y sir yn ogystal â rhannu gwersi o’r cynllun treialu hwn
     

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£36,000.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Dyffryn Wysg
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Jeremy Gass
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts