Pantri Taldraeth

Yn cynhyrchu cynnyrch cartref Taldraeth, dan yr enw Pantri Taldraeth e.e. 'o'r ardd i'r jar', fel jamiau, jellies a siytni.

Sefydlu’r Pantri, h.y. ystafell/uned ar wahân i baratoi a chynhyrchu, gyda'r rhan fwyaf o'r cynnyrch yn cael ei dyfu yn yr ardd lle bo modd (mae'r cynnyrch a dyfir yn yr ardd yn llai na 90% o'r holl gynhwysion a chynnyrch).

Mae angen i'r pantri fod yn ystafell/uned ar wahân i'r gegin ddomestig oherwydd diffyg lle storio ac er mwyn cadw'r gwaith paratoi ar gyfer Pantri Taldraeth ar wahân er mwyn sicrhau hylendid bwyd.

Mae angen buddsoddi i osod unedau yn y pantri, cefn sblasio, sinc, drws, ffenestri, adnewyddu wal damp, gwaith plymio a gwaith trydanol ar gyfer cyfarpar, cegin/cyfarpar coginio, er mwyn gwneud yr ardal waith yn addas i’w defnyddio ac yn lân.

Mae angen i ni gyflenwi gwasanaethau fel draenio, plymio a thrydan i'r Pantri a'r adeiladau allanol er mwyn gallu gweithio yno a gosod y cyfarpar angenrheidiol.

Hefyd, mae angen i ni greu cyfleuster storio cyfleus i storio ffrwythau fel afalau a llysiau ynghyd â chyfarpar penodol arall y mae angen ei storio. Mae'n bwysig bod cynnyrch yn cael ei storio'n gywir fel y gallant gadw am gyfnod hwy e.e. ar hambyrddau/bocsys/drôr sy'n caniatáu i ddigon o aer gylchredeg rhyngddynt.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£25,250
Ffynhonnell cyllid:
Cynllun buddsoddi mewn busnesau gwledig
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Mirain Gwyn
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts