Parc Gwledig Margam

Ar hyn o bryd, nid oes digon o leoedd parcio ceir dibynadwy, yn enwedig pan fydd y ddaear yn wlyb; dim ond 180 o leoedd parcio ceir pob tywydd sydd ar gael. Yn ogystal, mae'r Orendy yn cynnig lleoliad mawr ar gyfer priodasau a chynadleddau, ac mae'r amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynigir wedi cynyddu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; cynhelir dros 40 o ddigwyddiadau bach a mawr bob blwyddyn. Er mwyn gwella profiad ymwelwyr a chyflawni ei botensial ar gyfer digwyddiadau mwy o faint a digwyddiadau proffil uchel, mae angen buddsoddi er mwyn creu lleoedd parcio mwy dibynadwy.

Felly, nod y prosiect yw gosod system atgyfnerthu glaswellt ar draws 7,300 metr sgwâr o feysydd parcio glaswelltog sy'n bodoli eisoes, gan ddarparu 300 o leoedd parcio ychwanegol sy'n addas ar gyfer pob tywydd. Yn ogystal â darparu mwy o leoedd parcio ceir sy'n addas ar gyfer pob tywydd, byddai hyn hefyd yn creu arwyneb sy'n addas ar gyfer cerbydau mwy rheolaidd a cherbydau trymach, gan ddarparu lleoedd parcio dibynadwy i'w defnyddio gan weithredwyr bysiau a chan alluogi'r parc i gynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau o ansawdd uchel yn ystod misoedd yr Hydref a'r Gaeaf, fel gwyliau bwyd, digwyddiadau cerddoriaeth a chwaraeon a digwyddiadau Nadoligaidd. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£128,000
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Michael Wynne
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts