Partneriaeth Dyffryn Tywi - Dysgu oddi wrth y Tir

Bydd Partneriaeth Dyffryn Tywi yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) i gefnogi'r broses o 'gipio' gwybodaeth leol, gan greu llwyfan ddigidol un-stop a fydd yn gwella mynediad at wybodaeth sydd â ffocws lleol am adnoddau naturiol a diwylliannol. Nid yn unig y bydd y gwaith hwn yn cefnogi'r darparwyr twristiaeth yn y bartneriaeth bresennol, ond bydd hefyd o fudd i weithredwyr twristiaeth y sector preifat yn ardal y prosiect.

Trwy fapio asedau naturiol a diwylliannol rhannau canol Dyffryn Tywi, bydd y prosiect yn hybu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a mwynhad o adnoddau naturiol a diwylliannol yr ardal ac, o ganlyniad, yn codi proffil Sir Gaerfyrddin ymhlith cynulleidfaoedd newydd a chyfredol. Bydd yn cefnogi gwasanaethau diwylliannol gan gyfrannu at ganlyniadau iechyd a llesiant, hamdden a thwristiaeth, yn cynyddu gweithgarwch yn yr awyr agored, ac yn cynorthwyo i gynyddu nifer yr ymwelwyr a'r amser y maent yn aros yn yr ardal, a hynny i gefnogi datblygiad economaidd ymhlith busnesau twristiaeth yr ardal.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£15790.41
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Gaerfyrddin
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Aled Nicholas
Rhif Ffôn:
01267 224496
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts