Peilot Swyddog Cyllido Prosiect Datblygu Blaenau Cwm Nedd

Mae’r prosiect hwn yn dod â phedwar cyngor tref cymunedau gwledig ynghyd, sydd wedi ffurfio Clwstwr, i gyflogi Swyddog Datblygu fydd â’r nod o archwilio cyfleoedd cyllido grant a fydd o fudd i bob un o’r pedwar cymuned a leolir ym Mlaenau Cwm Nedd.

Rhagwelir y byddai’r swyddog yn rhoi cymorth i sefydliadau trydydd parti yn yr ardal hon, gan eu cynorthwyo i ddatblygu, cynlluniau, prosiectau a digwyddiadau a fydd o fudd i’r cymunedau lleol.

Mae’r pedwar cyngor cymuned yn ei chael hi’n anodd datblygu a rheoli prosiectau arloesol yn eu hardaloedd ar yr un pryd â chynnal eu rôl statudol a rolau eraill. Oherwydd dibyniaeth yn y gorffennol ar wirfoddolwyr i ymgymryd â’r gwaith hwn, ni fu i sawl prosiect gael eu traed danynt, eu cymerwyd blynyddoedd lawer i’w hybu.

Bydd swyddog ymrwymedig yn dod â chyfleoedd a phrosiectau y mae mawr eu hangen ar yr ardaloedd hyn yn ei sgil. 

Bydd cyllid yn galluogi’r swyddog i weithio gyda’r pedair cymuned naill ai ar wahân neu gyda’i gilydd ar gynlluniau a gynhyrchwyd ar y cyd sy’n ymwneud ag asedau cyffredin ym Mlaenau Cwm Nedd.

Bydd y peilot yn sicrhau fod y fframwaith angenrheidiol wedi’i sefydlu, cyn i ail gam ddechrau, gyda chyllid oddi wrth gronfa gymunedol leol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

Byddai’r cyfleoedd cyllido grant niferus a fydd ar gael ym Mlaenau Cwm Nedd dros y 15-20 mlynedd nesaf fel lleiafswm, gall y swydd ddod yn hunangynhaliol o ran cyllid ac yn gynaliadwy ar gyfer y cyfnod hwn, gan ddarparu cymorth hanfodol i’r cymunedau ar ffurf mantais cael swyddog penodedig i gyflawni gwelliannau i bob un o’r pedair ardal.  

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£7991.87
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Joanna van Tonder
Rhif Ffôn:
01639 722961
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.glynneathtowncouncil.gov.uk/
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts