Gweithia ein prosiect tuag at ddeddfwriaeth o ddiwastraff erbyn 2050 yn y DU. Mae angen gweithred gymunedol i gyflawni hyn ble datblygir sgiliau a gwybodaeth i wneud Sir Benfro yn le gwell i fyw nawr ac i genedlaethau’r dyfodol. Ar hyn o bryd, rhedir The Pembrokeshire Remakery ar sail sy’n hollol wirfoddol ac rydym eisoes wedi arbed 15 tunnell o eitemau’r cartref rhag ymuno â’r llif gwastraff. Gall bob tunnell o nwyddau a ddargyfeirir o ailddefnyddio arbed 3.45 tunnell o allyriadau carbon deuocsid, sy’n gyfwerth â phweru’r cartref cyffredin am 3 mis. Rydym wedi gwerthu 250 o nwyddau yn ôl i’r gymuned am gostau fforddiadwy ac ar adeg ysgrifennu mae ein gwirfoddolwyr lleol wedi cyfrannu dros 1260 awr o’u hamser a’u sgil a chynyddir hynny’n fisol. Rydym bellach yn gweld yr angen i uwchraddio ein gweithrediad a rhedeg prosiect peilot gyda dau aelod o staff cyflogedig fel y gallwn gyflwyno prosiect sydd â ffocws a tharged pendant i’n galluogi ni gyrraedd ein nodau.
Y gweithgareddau rydym yn bwriadu eu cyflwyno yw:
- Hwyluso a chynnal hyfforddiant atgyweirio a thrwsio ar sail 1:1 ac mewn grwpiau o hyd at 6 ar yr un pryd. Cynhaliwn sesiynau galw heibio, gweithdai a chaffis atgyweirio ar gyfer y gymuned leol yn seiliedig ar ail-ddefnyddio, atgyweirio, ail-bwrpasu ac ymwybyddiaeth amgylcheddol;
- Gweithredu cownter gwerthu sy’n darparu gwasanaeth lleol o nwyddau ail law fforddiadwy ac ail werthu nwyddau ail-bwrpasol gan greu incwm cynaliadwy;
- Darparu canolfan gymunedol – gyda gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad ar ail-ddefnyddio ac atgyweirio, gan gynnwys materion amgylcheddol, lleihau gwastraff a newid hinsawdd. Byddwn yn cynhyrchu pecyn cymorth i rannu ein profiadau dysgu gydag eraill;
- Dod yn enghraifft flaenllaw o leihau gwastraff a fyddai fel arall yn mynd i dirlenwi drwy gymryd rhoddion o eitemau sydd wedi torri, eu hatgyweirio lle bynnag sy’n bosibl, neu eu hail-bwrpasu i eitemau newydd.
Disgwyliwn i rai cyfranogwyr fynd ymlaen i ddyfnhau eu sgiliau a’u gwybodaeth, gan arwain atynt yn sefydlu eu menter fach eu hunain yn y sector ail-ddefnyddio ac atgyweirio. Wrth i’r prosiect hwn dyfu, tyfir ein sylfaen o wirfoddolwyr hefyd ac rydym eisiau i wirfoddolwyr weithio a dysgu ochr yn ochr â ni ym mhob agwedd bob diwrnod – o sgiliau atgyweirio a thrwsio i fod yn rhan o’r tîm i hybu datblygiad y prosiect o drefnu, marchnata a hysbysebu, cofnodi data, adwerthu, a chyllid. Gall gwirfoddoli ddatblygu sgiliau newydd, hybu hyder ac ehangu rhagolygon gyrfa, neu gynorthwyo i ddechrau menter fach, busnes bwrdd cegin. Gellir ennill sgiliau a hyder sy’n mynd i’r afael ag arwahanrwydd ac unigedd i helpu pobl fynd allan i’r byd.
I ddechrau byddwn yn defnyddio sgiliau ac arbenigedd crefftwyr lleol, ac yn recriwtio a gweithio gyda gwirfoddolwyr i ddatblygu sgiliau, annog annibyniaeth ac ymreolaeth. Byddwn yn dod â phobl ynghyd ble gallent ymgysylltu’n ddefnyddiol ag eraill i gyflawni ymdeimlad o bwrpas, gan leihau arwahanrwydd ac unigedd. Drwy ddod â chenedlaethau hŷn ac iau ynghyd, ein nod yw sicrhau na chollir sgiliau, ond fe’u trosglwyddir i eraill gan wella iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol a datblygu Sir Benfro llewyrchus a chymdeithas garbon isel.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£71,299
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Sir Benfro
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
- The Pembrokeshire Remakery
Cyswllt:
- Enw:
- Nicky Middleton-Jones
- Rhif Ffôn:
-
07979 470517
- Cyfeiriad e-bost:
- remakerypembrokeshire@gmail.com
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://datris.planed.org.uk/the-pembrokeshire-remakery/
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts