Presgripsiwn Gwyrdd

 

Profi gwerth Presgripsiwn Cymdeithasol ac ymarfer corff yn yr awyr agored o fewn y Sir hwn, ar cyfleon economaidd a chymdeithasol a all ddatblygu ohono.
 
Y prosiect Cynnal prosiect peilot byr (oddeutu 10 wythnos) syn annog grwpiau ac unigolion sydd heriau iechyd corfforol, iechyd meddyliol, yn ogystal a heriau cymdeithasol, i ddod i ymarfer corff yng Nghwm Idwal (Gwarchodfa Natur). Rydym wedi dewis yr ardal hwn gan bod rhwydwaith eang o asiantaethau yn bodolin barod yno, oll yn barod i gydweithio e.e. GIG, Grp Hafal (Tm Psychosis), Tim Iechyd Meddwl Cymunedol, Cyfuno Gwynedd (yn benodol teuluoedd ifanc). Hefyd maer warchodfa yn gyfoethog o ran testynnau teithiau cerdded, syn ddelfrydol ar gyfer tynnur sylw oddi ar yr ymdrech gorfforol. Byddair peilot yn agored i 20 o unigolion, ar bob taith, ar sail atgyfeiriad gan yr gwasanaeth iechyd. Bysa angen cydweithio efor gweithwyr iechyd i wneud asesiad or unigolyn a datgan fod y weithgaredd yn addas. 
 
Y bwriad yw cynnal 10 taith dros y 10 wythnos, gan gynnig y gweithgareddau canlynol: 
  • Mindfulness 
  • Hanes ac Enwau Lleoedd yr ardal 
  • Bioamrywiaeth Daeareg a Daearyddiaeth 
  • Ysbrydoliaeth ar Celfyddydau 
Mi fysar peilot yn comisiynu 2 arweinydd mynydd i oruchwilio diogelwch y teithiau, a bydd testynnaur teithiau yn cael eu cyflwyno gan Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal. Bydd trafnidiaeth y buddiolwyr ir safle yn cael ei dalu gan y cynllun peilot. Os na fydd gan y buddiolwyr ddillad ac esgidiau addas, bydd rhai yn cael eu darparu iddynt fel rhan or peilot. Gall yr arweinwyr mynydd ac arweinydd y daith rhoi cyngor ar pa ddillad a fuasain addas iw prynu os ywr buddiolwyr am barhau efo cerdded mynydd. Bydd cyflwyniad sylfaenol hefyd i waith map, pwysigrwydd bwytan gywir ac yfed, a diogelwch mynydd.

 

 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£7,500
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Zoe Pritchard
Rhif Ffôn:
01766 514057
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.arloesigwyneddwledig.cymru

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts