Profi

Mae'r Rhaglen Profi yn helpu i wella sgiliau pobl ifanc ym myd gwaith. Bydd elfen Arweinydd y prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc o Flwyddyn 10 ymlaen i ddarparu cymorth ar gyfer datblygu cwis ar-lein rhyngweithiol. Bydd y cwis yn eu galluogi i nodi, datblygu a mesur datblygiad eu sgiliau mewn ffordd weledol wrth iddynt fanteisio ar brofiadau newydd. Bydd hyn, yn ei dro, yn ysgogi pobl ifanc i achub ar fwy o gyfleoedd a meithrin eu sgiliau ymhellach. Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan yn natblygiad y cwis ac yn treialu pob cam ohono yn ystod y cylch datblygu.

Bydd pum ffilm yn cael eu creu hefyd, a fydd yn dangos i bobl ifanc groestoriad o yrfaoedd yn yr ardal, gan amlygu'r cyfleoedd sydd ar gael yn eu cymunedau, a'r rheiny'n cynnwys cyfleoedd i ddychwelyd i'r ardal i weithio ar ôl graddio.

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£88,907
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Gaerfyrddin
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Aled Nicholas
Rhif Ffôn:
01267 224496
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts