Nod y prosiect yw ymestyn cyrhaeddiad y pwyntiau mynediad Wi-Fi am ddim Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy/ Purple (North) presennol, sydd ond ar gael yng nghanol y pentref ar hyn o bryd fel eu bod yn cyrraedd Gogledd a De’r pentref. Bydd hyn yn ein galluogi i gipio cymaint o ddata a phosibl ynghylch patrymau ymwelwyr, amseroedd aros, nifer yr ymweliadau, mannau prysur ac ati a rhannu’r rhain gyda phatrymau defnydd er mwyn cynorthwyo cynllunio a dylunio busnes fel amserau agor, cael cymaint â phosibl o staff ar yr adegau prysur a nodir, buddsoddiad, darparu ffigurau ar gyfer darpar fusnesau newydd i siopau gwag ac ati ac fel tystiolaeth i ddenu cyllid posibl er mwyn gwella’r seilwaith a mynd i’r afael ag anghenion ymwelwyr. Bydd hefyd yn cynorthwyo’r Cyngor i deilwra gwasanaethau yn y pentref fel eu bod mor effeithiol â phosibl (ee casgliadau sbwriel ac agor toiledau).
Nid oes unrhyw ddata personol yn cael ei gymryd ac mae’n cydymffurfio’n llawn â GDPR.
Yn ogystal, bydd y prosiect hwn yn gwneud y canlynol:
- Mesur nifer y bobl yn y pentref ar unrhyw adeg yn ystod y dydd neu gyda’r nos dros gyfnod o wythnos neu fis.
- Darparu tystiolaeth o fannau poblogaidd neu brysur yn y dref/pentref (lle mae pobl yn ymgasglu e.e. Pont y Pair a Chae Llan).
- Darganfod sut mae pobl yn teithio i’r pentref mewn car/ trên/taith fws foethus ac ati
- Nodi a oes digon o fannau parcio i gyfateb â nifer y ceir?
- Dangos faint o bobl sy’n methu dod o hyd i rywle i barcio ac yn parcio mewn ffordd anghyfrifol yn sgil hynny?
- Rhoi manylion ynghylch pa amser mae pobl yn cyrraedd, am ba hyd maen nhw’n aros, beth maen nhw wedi’i wneud, ble maen nhw wedi bod yn y pentref, pa bryd y gwnaethon nhw adael. Gall hefyd weld a ydyn nhw wedi bod i Fetws-y-coed o’r blaen a sawl gwaith y maen nhw’n ymweld mewn wythnos / mis, dyweder.
- Dangos a yw ymwelwyr yn parcio ac yn gadael y pentref ac yn dychwelyd yn ddiweddarach? A ydyn nhw’n neidio’n syth yn ôl mewn i’r car ac yn gadael neu a ydyn nhw’n aros i fwyta, siopa, aros dros nos?
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio ble i fuddsoddi a gosod meinciau, byrddau picnic, arwyddion, biniau, goleuadau, gwaith atgyweirio a gwelliannau.
- Helpu i wybod pa bryd i agor a chau toiledau, siopau, caffis a helpu i drefnu staff, cynnig parcio am ddim, marchnata cynigion e.e. dau ginio am bris 1 pan fo llefydd bwyta ar agor yn ystod adeg brysur o’r diwrnod.
- Dangos a yw’r tywydd yn dylanwadu ar ddewis pobl i ymweld (mynd i lan y môr pan fo’r tywydd yn braf?)
- Nodi amrywiadau tymhorol mewn niferoedd ymwelwyr.
- Darparu data i’w ddefnyddio i ddenu busnesau i siopau gwag.
- Darparu manylion ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar y dewis i ymweld â Betws-y-coed - digwyddiadau? A oes digon o leoedd parcio? Cludiant cyhoeddus da? Y siopau, llwybrau cerdded, gwestai ac ati
- Yn darparu tystiolaeth am ddigwyddiadau go iawn a nifer yr ymwelwyr ac nid ein barn ni. Ond, yn amlwg, nid yw’n dweud wrthym ni beth sydd ddim yn digwydd!
Bydd y prosiect yn gwneud defnydd da o’r data a gesglir er mwyn gwella’r pentref a dod a budd i’r gymuned ehangach, neu dim ond data moel fydd hyn fel arall. Felly, mae’n rhaid cael grŵp sy’n gallu gwerthuso a defnyddio’r data i’w lawn botensial.
Byddai’r data a gesglir yn dystiolaeth wirioneddol, sy’n cael ei fwydo i mewn i brosiectau fel prosiect ymgynghori Trafnidiaeth a Pharcio Partneriaeth Eryri ar ran cymuned a busnesau Betws-y-coed.
Mae systemau Trefi Clyfar eisoes ar waith ym Meddgelert (ac amryw o drefi eraill yng Ngwynedd) sy’n rhan o’r ymgynghoriad Trafnidiaeth a Pharcio ynghyd â Betws-y-coed, Llanberis a Bethesda.
Gall y data helpu gyda thystiolaeth wrth wneud achos dros welliannau, rheoli traffig, profi effaith nifer uchel o ymwelwyr a’u lliniaru, mannau prysur, ceisiadau am gyllid a chefnogaeth i fynd i’r afael â phroblemau, yr adeg orau o’r dydd i ddarparu gwasanaethau e.e. ysgubo’r ffordd/ stryd, gwagio biniau sbwriel, digwyddiadau, cynigion marchnata ac ati.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£11661.20
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Conwy
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 5
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Barbara Drake
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts