Prosiect Coed Nant Bele

"Bydd y prosiect hwn yn cynyddu capasiti i brosesu coed pren caled, mân rywogaethau conwydd a deunydd mawr iawn ac yn creu adnodd cynaeafu newydd i safleoedd bach/anodd.

Ehangu Marchnadoedd Cyfredol - Ar hyn o bryd, mae 1,400t p.a. o goed yn cael eu prosesu yn Nant Bele a'u gwerthu fel bio-fàs ar ffurf boncyffion ar gyfer defnydd domestig a manwerthu ac ar gyfer rhai boeleri biomas bach. Ni all y trefniant presennol ateb y galw am foeleri preifat a masnachol ac mae cwsmeriaid newydd yn cael eu gwrthod yn aml. Y brif broblem yw capasiti sychu. Mae'r odyn presennol yn fach ac annigonol a chynigir buddsoddi mewn odyn a boeler biomas newydd i gynyddu cynhyrchiant a chyflenwi biomas ar gyfer boeleri ar ffermydd. 

Creu Marchnadoedd Newydd - Ychydig iawn o gapasiti sydd yng Nghymru i broseswyr coed ddefnyddio rhywogaethau pren caled, mân rywogaethau conwydd a deunydd mawr iawn. Bydd Prosiect Nant Bele yn cynhyrchu coed wedi'u llifio ar gyfer adeiladu amaethyddol ar felin lifio symudol ac yn prynu cloddiwr bach gyda holltwr mecanyddol a fydd yn galluogi'r busnes i dorri deunydd rhy fawr a chynhyrchu pyst derw hollt. Bydd hyn yn cynyddu faint o bren caled a deunydd mawr iawn y gellir ei brosesu gan gynyddu'r galw am goed o goetiroedd lleol.

Adnodd Teneuo Tir Serth - Cynigir cyflogi pedwar unigolyn ychwanegol i greu tîm pwrpasol ar gyfer teneuo a chynaeafu ar safleoedd serth/anodd. Bydd winsh yn cael ei gosod ar y cloddiwr a grybwyllir uchod ar gyfer gweithio ar dir serth a bydd cyneafwr a blaenyrrwr bach yn cael eu prynu i brosesu ac echdynnu coed wedi'u teneuo. "
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£371,262
Ffynhonnell cyllid:
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren
Ardal:
Sir Gaerfyrddin
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Steve Lloyd
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts