Prosiect Coetir Cymunedol Coed y Bont

Pwrpas prosiect Coetir Cymunedol Coed y Bont, ym Mhontrhydfendigaid, oedd treialu ffyrdd newydd y gallai Grŵp Coetir Cymunedol Coed y Bont ddefnyddio'r coetir o 24.2 hectar er budd y gymuned.

Nod y prosiect oedd annog plant i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol, ynghyd â chynyddu diddordeb mewn bywyd gwyllt. I wneud hyn gweithiodd y prosiect gyda'r ysgol gynradd leol a'r clwb ieuenctid wrth hefyd cael y plant i ymgysylltu â gwirfoddolwyr Coed y Bont. Yn olynol, roedd hyn yn annog y plant i ymweld â Coed y Bont gyda'u rhieni a'u teuluoedd a chymryd rhan mewn gweithgareddau a gynhelir yno.

O ganlyniad i fodolaeth y prosiect, nid yn unig y daeth â'r gymuned at ei gilydd ond dysgodd y plant sgiliau newydd a chreu gwaith celf ragorol i wellau Coed y Bont. Mae'r gwaith celf a grëwyd, yn arbennig y blychau Belaod, nid yn unig o fudd i'r gymuned, ond hefyd o fudd i'r anifeiliaid prydferth gan y bydd yn eu hannog i ddefnyddio'r coetir yn dilyn eu hailgyflwyniad i'r ardal.

Gwnaeth y diwrnod agored hefyd helpu i gysylltu gyda theuluoedd, plant a phobl yn gyffredinol wrth ddefnyddio'r coetir at ddibenion iechyd ac addysgol, yn ogystal â dod â'r gymuned at ei gilydd.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£5,319
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Meleri Richards
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts