Prosiect Cymunedol Odyn Crochenwaith Canoloesol – Trefdraeth

Mae'r prosiect hwn yn ceisio sicrhau y gall ein cymuned fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan gofeb o ddiwedd y canol oesoedd sydd heb ei chyffwrdd hyd yma mewn dwy ffordd; un i wireddur potensial economaidd y mae'n ei gynnig i ddatblygu twristiaeth treftadaeth er lles sir Benfro, ac, yr un mor bwysig, defnyddior prosiect i ddatgelu hanes canoloesol Trefdraeth sy'n cynnwys pob oedran yn y gymuned drwy gynnig cyfleoedd i gymryd rhan drwy wirfoddoli, digwyddiadau addysgol a gweithgareddau cymunedol. Bydd hyn yn annog perchnogaeth a balchder yn ein cymuned ac yn darparu ffocws ar gyfer cydlyniad cymunedol y mae mawr angen amdano. Mae'r adnodd lleol hwn yn em ddiwylliannol a hanesyddol gudd, Odyn Grochenwaith Ganoloesol syn Heneb Gofrestredig. Yr Odyn Grochenwaith Ganoloesol ywr odyn ganoloesol sydd wedii chadw orau yn y DU ac mae wedi cael ei datgan fel arteffact Prydeinig pwysig, unigryw i Sir Benfro, Cymru ac yn wir y DU. Mae'r odyn yn cael ei chuddio ar hyn o bryd yn islawr Neuadd Goffa Trefdraeth. Maen anhygyrch i'r cyhoedd a bellach mewn angen brys am ei gwarchod. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri, y Gronfa Datblygu Cynaliadwy a Cadw wedi addo arian i warchod yr odyn ac i ariannu gwaith adeiladu er mwyn ei hagor i'r cyhoedd. Bydd yr ardal ddiraddiedig iawn hon (syn llaith, oer a heb ei defnyddio) wrth ymyl yr odyn yn cael ei datblygu fel rhan o'r prosiect hwn er mwyn darparu lle ar gyfer yr holl weithgareddau sydd wedi eu cynllunio fel rhan o'r prosiect a hefyd i barhau i ddarparu lle y mae ei fawr angen i weithdai ar gyfer dosbarthiadau crochenwaith a chelf a gweithgareddau eraill i blant ac oedolion.
 

 

 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£52,500
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2
Newport Medieval Pottery Kiln – Interpretation

Cyswllt:

Enw:
Siobhan Ashe
Rhif Ffôn:
01239 821044
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.newportmemorialhall.co.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts