Prosiect cydweithredol dan arweiniad ffermwyr i gymryd camau ar raddfa’r dirwedd gyfan i gryfhau’r ecosystem a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, a hynny drwy ddulliau rheoli tir. Mae Fferm Ifan yn gydweithrediad o 11 o ffermwyr ar ystâd Ysbyty Ifan. Mae’r ffermwyr hyn yn ceisio gwella a rheoli adnoddau naturiol yn fwy cynaliadwy ac effeithlon. Mae tua 2,456 Ha wedi’u cynnwys yn y prosiect, a chaiff dulliau rheoli tir penodol eu cyflwyno a fydd hefyd yn sicrhau buddion economaidd-gymdeithasol i’r 11 o ffermydd a’r gymuned wledig ehangach y mae Fferm Ifan yn rhan ohoni. Mae gan y ffermwyr hawliau pori i’r Migneint, un o’r ardaloedd gorgors fwyaf yng Nghymru, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig.
Fel rhan o’r gwaith, mae’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) yn darparu canllawiau ar blannu sensitif i ddalgylch. Byddant yn plannu mwy o goed tir fferm a chloddiau ar hyd nentydd i helpu i warchod cynefinoedd ar lannau afonydd, lleihau faint o bridd sy’n cael ei erydu, a lliniaru perygl llifogydd ymhellach i lawr yr afon. Bydd blocio ffosydd ar y Migneint yn parhau a bydd hynny’n helpu i godi’r lefel trwythiad, storio carbon a lliniaru perygl llifogydd yn Nyffryn Conwy.
Mae’r ffermwyr hefyd yn cymryd rhan mewn treialon pori i annog mwy o fioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn y mawndir. Fel rhan o’r treialon pori, mae gwartheg wedi’u cyflwyno i’r Migneint am y tro cyntaf erioed ac mae cynlluniau i adfer cynefinoedd i annog mwy o gornicyllod a gylfinirod i fridio’n llwyddiannus yn yr ardal.
Mae’r grŵp hefyd yn gweithio’n agos gyda sawl partner gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, RSPB, y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Prifysgol Bangor a Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn rhannu syniadau a dysgu o arbenigedd a phrofiad partneriaid.
Elfen gyffrous o’r prosiect fydd edrych ar ddatblygu marchnadoedd newydd ar gyfer y cynhyrchion nad ydynt yn fwyd sy’n deillio o ddulliau rheoli tir yn gynaliadwy – dŵr glân ac araf, storio carbon a bioamrywiaeth sy’n ffynnu. Prif nod y grŵp yw cydweithio i sicrhau y gall cenhedloedd dyfodol y teuluoedd ffermio traddodiadol hyn barhau i ffynnu mewn cymuned Gymraeg ei hiaith ar ucheldir Cymru.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£696352.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
- Ardal:
-
Conwy
- Cwblhau:
-
- Fferm Ifan Ecosystem Service Improvement Scheme
- Fferm Ifan - The Migneint and Climate Change
Cyswllt:
- Enw:
- Arwel Jones
- Cyfeiriad e-bost:
- ffermifan@gmail.com
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- https://www.youtube.com/watch?v=bLtugsaSY94
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts