Prosiect newydd sy'n gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) i greu cyfleoedd i breswylwyr lleol ailgysylltu â natur a dysgu sgiliau newydd drwy wirfoddoli sy'n canolbwyntio ar reoli a hybu bioamrywiaeth a garddwriaeth. Mae rheoli bioamrywiaeth yn rhagweithiol ac amddiffyn adnoddau naturiol mewn ffordd adeiladol yn hanfodol i ganiatáu i boblogaethau ffynnu a chyfoethogi'r amgylchedd.
Bydd y prosiect yn mynd ati i drawsnewid cae, a ddefnyddiwyd yn helaeth ar gyfer pori, yn fan gwyrdd, bioamrywiol sy'n llesol i fywyd gwyllt lle gall y gymuned leol ddod at ei gilydd, dysgu sgiliau newydd ac ailgysylltu â'u hamgylchedd lleol. Bydd y gymuned leol yn rhan annatod o'r gwaith i gynllunio a datblygu'r safle drwy ddiwrnodau gwirfoddoli yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau i sicrhau bod y prosiect yn hygyrch i'r gymuned gyfan.
Mae Clwstwr Llwchwr o feddygon teulu y daw eu cleifion yn bennaf o Langyfelach, Mawr a Phontarddulais wedi cytuno i gymryd rhan mewn cynllun presgripsiynu cymdeithasol (PC) gyda'r prosiect. Mae'r Cydlynwyr Ardaloedd Lleol (CALl) a gweithwyr cyswllt cymunedol sy'n cysylltu cyfleoedd PC â meddygon teulu yn cwrdd ar arweinwyr y prosiect i sicrhau bod y cyfle hwn yn agored i bawb ac yn weladwy i gleifion yn y wardiau gwledig.
Rhoddir cyfleoedd hefyd i ysgolion mewn ardaloedd gwledig gymryd rhan mewn rhaglen addysg strwythuredig â'r bwriad o gynyddu ymwybyddiaeth leol o fioamrywiaeth. Fel rhan o hyn, bydd y plant yn helpu i roi'r PRhB ar waith ac yn gweld y canlyniadau. Bydd y prosiect yn annog yr ysgolion i ddefnyddio gwybodaeth ac ymwybyddiaeth i hybu bioamrywiaeth yn eu hysgolion gyda chefnogaeth barhaus. Darparodd Ysgol Gynradd Llangyfelach lythyr o gefnogaeth ar gyfer y prosiect a bydd yn ei hybu gydag ysgolion eraill yn ei chlwstwr.
Bydd PRhB cynhwysfawr yn helpu i gyflwyno amaethyddiaeth fwy cadarn a chydnerth yn yr ardal leol oherwydd y lliaws o wasanaethau ecosystem y mae bioamrywiaeth yn cyfrannu atynt gan gynnwys ein cynhyrchiad bwyd, peillio, rheoli plâu, atal pridd rhag erydu, atal llifogydd a gwella ansawdd dŵr. Mae bioamrywiaeth yn darparu cyfalaf cymdeithasol cryf drwy gyfrannu at ardal wledig gyfoethog a byw sy'n darparu cysylltiadau hanfodol rhwng cymunedau a ffermwyr gyda thirweddau agored a gwrychoedd a choetiroedd ffyniannus, gan ddarparu ffordd arall o ymgysylltu â'r gymuned ac annog cydlyniant cymunedol gwledig.
Bydd rheoli cynefinoedd a chysylltedd ecosystemau'n ganolog i flaenoriaethau'r PRhB oherwydd hebddo, mae bioamrywiaeth naill ai'n cael ei hesgeuluso, ei gwthio i'r ymylon neu ei gorfodi i ennill ar yr amgylchedd adeiledig.
Mae bioamrywiaeth yn darparu gwasanaethau hanfodol i'r gymuned wledig:
- Peillio cnydau
- Lleihau dŵr ffo
- Adeiladu ffrwythlondeb pridd
- Atal erydiad
- Atal Llifogydd
- Gwella ansawdd dŵr
- Rheoli Plâu
- Atalfeydd gwynt
- Cynnal incymau gwledig
- Amrywiaeth ac felly gyfaddaster cymunedau gwledig
Bydd y gwaith o reoli bioamrywiaeth yn digwydd dros 6 cham:
- Monitro
- 1: Adnabod cynefinoedd
- 2: Adnabod lleoedd allweddol
- Rheoli
- 3: Rheoli tir â chydymdeimlad
- 4: Rheoli cynefinoedd yn rhagweithiol
- Gwella
- 5: Gwella cynefinoedd/poblogaethau presennol.
- 6. Gweithio gydag eraill i greu cyfleoedd newydd.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£25000.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Abertawe
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Vicki Thomson
- Rhif Ffôn:
-
01792636992
- Cyfeiriad e-bost:
- rdpleader@swansea.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts