Prosiect Sgiliau Gwyllt Lleoedd Gwyllt

Diolch i gydweithrediad arloesol rhwng GIG Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn (MWT), bydd y prosiect yn darparu amrywiaeth o atebion sy’n seiliedig ar natur i wella iechyd, sgiliau a llesiant ein cymunedau lleol. Bydd cynefinoedd newydd a rhai sy’n bodoli eisoes yn cael eu creu a’u rheoli gan grwpiau prosiect, a hynny er mwyn galluogi treulio amser ystyrlon yn deall ac yn rheoli ardaloedd lleol sy’n gyfoethog mewn bywyd gwyllt.

Bydd gwarchodfeydd natur sy’n cael eu gwella gan y prosiect yn galluogi cymunedau lleol i archwilio cynefinoedd yn ddiogel, yn cynnwys glannau afon, coetir, glaswelltir, ffiniau camlas, gwlyptir ac ucheldir. Bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygurhaglen strwythuredig, achrededig o weithgareddau natur i alluogi pobl i gyfranogi yn y Pum Nod Llesiant, sy’n gwella iechyd a llesiant, datblygu sgili Bu newydd, meithrin hyder a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol. Y nod yw i hyn fod ar gael i’w atgyfeirio’n uniongyrchol gan y GIG a meddygon teulu yn ogystal â bod yn agored i gymunedau lleol ar draws Sir Drefaldwyn.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£699,854
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Powys
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Carla Kenyon
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts