Prosiect Solar a Batris

Mae Awel Aman Tawe (AAT), a sefydlwyd ym 1998, ar flaen y gad ym maes ynni adnewyddadwy yn y gymuned, ac mae gan y cwmni nifer o flynyddoedd o brofiad wrth ddatblygu rhaglenni cymunedol a rhoi cyngor amdanynt, gan gynnwys ynni gwynt, solar, biomas a hydro. Bwriad y prosiect hwn yw sicrhau cyllid ar gyfer ffarm solar ar y ddaear a chyfleuster storio batris ar fynydd y Gwrhyd. Bydd cyllid gan LEADER yn talu costau'r gefnogaeth gyfreithiol a'r ffioedd caniatâd cynllunio sy'n ofynnol am y safle hwn. Lleolir y cyfleusterau solar a storio batris wedi'u cwblhau wrth ochr tyrbinau gwynt AAT sydd eisoes yn bodoli.

Cwblhawyd astudiaeth dichonoldeb a oedd yn ystyried amrywiaeth o faterion megis ecoleg, mynediad, effaith weledol, hydroleg, archaeoleg, pefriad a llewyrch, sŵn ac effaith economaidd. Gall yr astudiaethau hyn gael eu cyflwyno fel rhan o'r ceisiadau cynllunio.

Bydd y gymuned leol yn elwa o gael y cyfle i gael mynediad at drydan rhatach trwy'r cyfleusterau solar a storio batris. Yn ogystal, bydd y cyfleusterau hyn yn galluogi AAT i barhau i weithio i gefnogi adfywio lleol, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chreu ffynonellau cyllid cynaliadwy ar gyfer y gymuned leol. Bydd y safle hefyd yn adnodd addysgol hynod werthfawr, lle bydd amrywiaeth o dechnolegau'n cael eu harddangos a bydd yn enghraifft arbennig i ddisgyblion o bob oedran o sut i integreiddio'r rhain a sut maent yn berthnasol i fywyd pob dydd.  

Pan fydd y prosesau cyfreithiol a chynllunio wedi'u cwblhau, bydd AAT yn lansio cynnig cyfrannau cymunedol i ariannu'r costau cyfalaf y mae eu hangen ar gyfer y cyfleusterau solar a batris.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£32,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
4
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Dan McCallum
Rhif Ffôn:
01639 830870
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://awel.coop/
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts