Wi-Fi mewn “Ysgolion Cymunedol” - bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn darparu Wi-Fi am ddim yn yr adeiladau cymunedol sydd ynghlwm i’r pedair ysgol, gan alluogi’r gymuned leol i’w ddefnyddio wrth fynychu cyfarfodydd a dosbarthiadau yno. Bydd hwn yn dreial tair blynedd, a bydd y defnydd yn cael ei fonitro yn ystod y cyfnod hwn.
Wi-Fi mewn Canol Trefi - bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn darparu wi-fi am ddim yn sgwâr Llanrwst a’r tu allan i Orsaf Drennau Betws-y-coed. Dyma’r gwasanaeth sydd eisoes ar gael yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Canolfannau Hamdden, Ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill. Bydd hwn yn dreial tair blynedd, a bydd y defnydd yn cael ei fonitro yn ystod y cyfnod hwn.
Wi-Fi Canol tref Abergele - bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn darparu Wi-Fi am ddim ar hyd y brif ffordd yng nghanol tref Abergele. Bydd hyn yr un fath â’r gwasanaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn Swyddfeydd y Cyngor, Canolfannau Hamdden, Ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill - ac yn cael eu darparu drwy gyllid LEADER yn Llanrwst a Betws-y-coed.
Treial tair blynedd fydd hwn a bydd y defnydd yn cael ei fonitro yn ystod y cyfnod hwn. Ond, yn wahanol i’r prosiectau eraill, ni fydd unrhyw gostau parhaus i’w talu gan mai dim ond ymestyn y Wi-Fi sydd eisoes ar gael yn y llyfrgell y byddwn ni.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£19936.97
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Conwy
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 5
- Mesur:
-
19.2
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts