Mae'r prosiect hwn yn cynnwys gosod cyfarpar prosesu a thrin wyau sy'n gysylltiedig ag uned ddodwy ar gyfer 32,000 o ddofednod. Mae buddsoddiadau'n cynnwys codi gorsaf bacio sy'n gysylltiedig â'r uned ddodwy, ynghyd â phaciwr, system pentyrru hambyrddau a robot paledu wyau.
Cynigir y dylid buddsoddi mewn cyfleusterau swyddfa ac offer cyfrifiadurol hefyd.
Mae'r partneriaid busnes wedi treulio'r 24 mis diwethaf yn ymchwilio'n ofalus i'r prosiect hwn ac wedi dewis contractwyr arbenigol a fydd yn gosod cyfarpar o'r radd flaenaf a fydd yn sicrhau cyfleusterau prosesu arloesol, gan gadw cynaliadwyedd wrth graidd y prosiect.
Mae'r busnes wedi ymgysylltu â phartneriaid allweddol yn ystod y broses ac mae wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda Chyswllt Ffermio i sicrhau hyfforddiant parhaus i staff allweddol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£72,800
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cynllun buddsoddi mewn busnesau gwledig
- Ardal:
-
Sir Gaerfyrddin
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Thomas Hughes
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts