Prynu safle mwy a chyfarpar arbenigol ar gyfer ehangu

Prif bwrpas y prosiect yw cynyddu capasiti cynhyrchu (rydym yn rhedeg ar gapasiti llawn ar hyn o bryd) a chreu amrywiaeth yn ein cynhyrchion. Mae hyn yn cynnwys prynu safle mwy a chyfarpar arbenigol i gynyddu ein capasiti cynhyrchu cyfredol ddeg gwaith o leiaf ac i gynhyrchu'n fwy effeithlon (fesul uned). Mae'r safle arfaethedig yn 6000 troedfedd sgwâr - digon mawr ar gyfer cyfarpar bragu 10BBL a chyfarpar cynhyrchu cysylltiedig, swyddfa, man storio ac ystafell oer. Bydd casgenni ychwanegol yn cael eu prynu i ddefnyddio'r capasiti cynhyrchu mwy hwn.

Bydd y cyfarpar yn darparu'r gallu i gynhyrchu cwrw casgen fach (keg), drwy danciau CT (llestri oer dan bwysau, dim ond cwrw casgen (cask) rydym yn ei gynhyrchu ar hyn o bryd) ac yn ein galluogi i gynhyrchu llawer mwy o fathau o gwrw a rhoi'r capasiti i ni gyflenwi manwerthwyr a chyfanwerthwyr cenedlaethol. Bydd y safle'n cynnwys 'hyb cwrw cartref' a siop cwrw crefft - gan fanteisio ar y farchnad cwrw cartref gynyddol (a eglurir yn fanylach yn adran 3) a chynyddu cysylltiadau a chyfranogiad cwsmeriaid. Bydd cyfran o gyfanswm gyllid y prosiect yn cael ei wario ar gludo (danfoniadau), cyfarpar warws (wagen fforch godi/tryciau paledau ac ati) gan roi'r gallu i ni gynhyrchu a rheoli stoc i gyflenwi'n cwsmeriaid cynyddol. Bydd cyfran o'r cyllid yn cael ei ddyrannu i'n hymrwymiadau cynaliadwyedd a'r Siarter Datblygu Cynaliadwy hefyd.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£128,562
Ffynhonnell cyllid:
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
James Bevan
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://tenbybrewingco.com/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts