Pwll Nofio Caron Swimming

Mae Pwll Nofio Tregaron wedi bod ar gau ers mis Hydref 2017 ac mae mewn perygl difrifol o ddod yn blot ar dirwedd Tregaron, gerllaw ysgol newydd a agorodd ym mis Medi 2018.Bydd y prosiect hwn yn ariannu ail gam y prosiect sef y cam datblygu.

Mae hyn yn cynnwys costiadau fel dadansoddiad o’r farchnad / ymchwil, sesiynau ymgynghori, astudiaeth ddichonoldeb i gynnwys cynllun busnes 5 mlynedd ar gyfer y prosiect, ynghyd â ffioedd cyfreithiol, ffioedd pensaer ac arolwg gwresogi. Mae datblygiad y prosiect rhwng Cyngor Tref Tregaron a Hamdden Caron Leisure.

Pwrpas terfynol y prosiect trosfwaol fel rhan o'r cyllid TRIp yw adnewyddu'r pwll, dymchwel y cyfleuster newid presennol, ac ailadeiladu adeilad deulawr a fyddai'n gartref i ardal newid un-rhyw, derbynfa ac o bosib, pwll babanod neu ardal chwarae meddal ar y llawr gwaelod ac ardal eistedd / gwylio / cyfarfod cymunedol ar yr ail lawr.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£42,021
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ceredigion
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Meleri Richards
Rhif Ffôn:
01545 570881
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.cynnalycardi.org.uk/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts