Ceir cytundeb cyffredinol fod yna gydberthynas rhwng amddifadedd ac iechyd meddwl. Mae data a gedwir gan Gamau’r Cymoedd / Valleys Steps ac mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, yn dynodi fod yna angen am adnodd ychwanegol i gyrraedd y cymunedau mwy ynysig o wledig a rhannol wledig yng Nghwm Taf sydd yn aml yn arddangos y cyfraddau uchaf o aml-amddifadedd.
Mae Camau’r Cymoedd / Valleys Steps wedi derbyn arian i ddarparu gwasanaeth allgymorth i gymunedau gwledig Cwm Taf. Byddai’r gwasanaeth allgymorth yn cynnwys:
• Datblygu cysylltiadau gyda grwpiau cymunedol cyfredol i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a llesiant.
• Darparu rhaglenni seico-addysgiadol i grwpiau llai
• Creu cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer buddiolwyr fel modd o ddatblygu llwybr i mewn i gyflogaeth ac addysg
• Drwy bartneriaeth â Coed Lleol byddan nhw’n ceisio defnyddio asedau naturiol yr ardaloedd a wasanaethir drwy weithgareddau llesiant awyr agored. Bydd hyn yn cynrychioli cyfle unigryw i beilota’r hyn a gynigir ar y cyd rhwng Camau’r Cymoedd / Valleys Steps a Choed Lleol.
Nodau canolog y gwasanaeth fydd gwella llesiant unigolion cysylltiedig a hyrwyddo gwytnwch y gymuned ehangach ble maen nhw byw ynddi. Yn ychwanegol at y nodau hyn caiff cyfleoedd gwirfoddoli eu creu i gefnogi’r rheini sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur i ddychwelyd yn ôl i alwedigaeth ystyrlon drwy wirfoddoli parhaus, mynediad at addysg a chyflogaeth a delir.
Caiff y gwasanaeth ei gyflenwi drwy gyfuniad o ddarpariaeth ar-lein a darpariaeth gymunedol pan fydd canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn caniatáu hynny. Nod allweddol, pan fydd hynny’n bosibl, yw y bydd yr hyn a gynigir ar y cyd yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau cymunedol yng nghalon y cymunedau y bwriedir eu gwasanaethu. Egwyddor ganolog i hyn fydd cyd-gynhyrchu, gyda buddiolwyr yn arwain o ran datblygiad cyfredol y gwasanaeth.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£59,833
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Merthyr Tudful
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
- The rural wellbeing outreach programme
- The Rural Wellbeing Outreach Programme
Cyswllt:
- Enw:
- Harri Evans
- Rhif Ffôn:
-
01685 725463
- Cyfeiriad e-bost:
- harri.evans@merthyr.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts