RHAGLEN HYFFORDDIANT A DATBLYGIAD AR-LEIN LLYSGENHADON GŴYR

Mae llawer o'r gymuned wledig yn goroesi oherwydd bod twristiaeth wedi'i hintegreiddio i'r sector hwnnw.  

Nod y prosiect hwn yw sicrhau bod profiad yr ymwelydd mor bleserus â phosib. Diben  hyfforddi llysgenhadon twristiaeth lleol yw gwella profiad ymwelwyr gyda gwybodaeth leol ac argymhellion. Gall llysgenhadon fod yn breswylwyr, yn fusnesau, yn weithwyr neu’n unrhyw un sy'n ymgysylltu'n uniongyrchol ag ymwelwyr â'r ardal.  

Mae Rhaglen Llysgenhadon Gŵyr yn rhaglen hyfforddi newydd a gwell, a fydd yn ehangu ar waith da'r  rhaglen beilot lwyddiannus drwy ddarparu rhaglen hyfforddi estynedig ddigidol. Bydd y rhaglen hon yn atgyfnerthu'r rhwydwaith presennol ac yn caniatáu ehangu'r cynllun o ystyried y pwyntiau dysgu allweddol yn y peilot. Bydd llysgenhadon hefyd yn cael cyfle i gwblhau modiwlau arbenigol fel addasrwydd i bobl anabl; hanes a threftadaeth; a natur, bywyd gwyllt, a'r amgylchedd.  

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£29,884
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Abertawe
Cwblhau:
Thema:
1, 5
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Victoria Thomson
Rhif Ffôn:
01792636992
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts