Rhaglen Llysgennad Twristiaeth Conwy

Cyflwynir y cais hwn yn amodol ar ymgynghori pellach â'r diwydiant, a bydd yn ceisio mabwysiadu dull a model tebyg i'r Cynllun Llysgennad Twristiaeth yn Sir Ddinbych https://www.ambassador.wales/cy/ambassador-courses/denbighshire-tourism-ambassador-scheme/ sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi cael croeso gan y diwydiant twristiaeth.  Mae’r gwaith ymchwil cefndirol sydd wedi cael ei wneud hyd yma wedi bod yn destun cyfathrebu agos gyda chydweithwyr yn siroedd eraill Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i sicrhau bod unrhyw raglen a gaiff ei datblygu yn cynnwys elfen o gysondeb ar draws y rhan fwyaf o’r rhanbarth, a sicrhau hefyd bod y rhaglen yn hawdd ei defnyddio a bod dealltwriaeth, cydnabyddiaeth a mynediad i ddefnyddwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.  

Maw sawl busnes twristiaeth yng Nghonwy wedi mynegi eu dymuniad i weld yr un Cynllun Llysgennad Twristiaeth ar waith yng Nghonwy ac i fwrw ymlaen â’r un cynigion a nodir ac a roddwyd ar waith yn Sir Ddinbych, fel yr amlinellwyd isod: 

  • Modiwlau dysgu ar-lein/ seiliedig ar wybodaeth - lefelau Efydd, Arian, Aur ac Arbenigol gan  
  • Barhau â theithiau dysgu lleol penodol/ cyfleoedd rhwydweithio/ gweithdai. 
  • Pecyn adnoddau ar-lein 
  • Sesiynau mentora a meithrin gallu

Modiwlau Dysgu Ar-lein / Seiliedig ar Wybodaeth

Byddai’r rhaglen yn cael ei disgrifio’n rhaglen hyfforddiant haenog sy’n ceisio meithrin cymuned o Lysgenhadon Twristiaeth ar gyfer eu hardaloedd a allai ddatblygu i fod yn Llysgenhadon i’r sir gyfan, neu ogledd Cymru fel rhanbarth.   Byddai’n adnodd dysgu ar-lein sy’n defnyddio amryw o dechnegau dysgu (testun, fideo, delweddau) gan orffen gyda ‘chwis’ ar gyfer pob modiwl y byddai angen ei basio er mwyn gallu cael yr achrediad. Nodwyd y byddai modiwlau digidol ar-lein ar gyfer busnesau twristiaeth yn gwella’r profiad cyffredinol i ymwelwyr. Ei nod yw creu lefel gwybodaeth a safon gwasanaeth gwaelodol, gan roi hyder i fusnesau wrth gyfathrebu ag ymwelwyr am adnoddau naturiol a diwylliannol yr ardal. 

Bydd modiwlau digidol y Llysgennad yn cynnig nifer o fodiwlau e-ddysgu.  Byddai’n dal modd i benderfynu ar themâu yn seiliedig ar fewnbwn gan y diwydiant, ond gallai, er enghraifft, gynnwys testunau fel y rhain:- 

  • Croeso i Ymwelwyr, Naws am Le/ Gwybodaeth am yr ardal -  Conwy Wledig e.e. oeddech chi’n gwybod/  ffeithiau?
  • Bwyd a Diod
  • Y Celfyddydau a Diwylliant
  • Cestyll a Threftadaeth
  • Tirluniau/ Yr Awyr Agored 
  • Datblygu gwybodaeth a hybu’r defnydd o'r Gymraeg 
  • Twristiaeth Gyfrifol 

Mae’r model ar-lein yn caniatáu hyblygrwydd i Lysgenhadon ddysgu yn eu pwysau eu hunain, pan fo hynny’n gyfleus ac mewn lleoliad o’u dewis. Byddai gofyn i lysgenhadon gwblhau tri modiwl craidd sy’n darparu gwybodaeth eang am yr ardal, am ddiwylliant ac iaith, ac yna gallent ddewis cwblhau modiwlau ychwanegol sydd yna’n berthnasol ac/neu o ddiddordeb iddynt.  Rydyn ni’n edrych ar y dewisiadau i ddangos cydnabyddiaeth i lysgenhadon ar ôl cwblhau modiwlau. Rhywbeth o safon gydag ymdeimlad lleol y byddai’r Llysgennad yn falch i’w arddangos yn eu heiddo. 

Byddai modd ychwanegu a diwygio modiwlau ar y llwyfannau yn ôl yr angen.  Bydd y llwyfan yn cael ei rheoli a’i chydlynu gan wasanaeth datblygu twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. 

Pecyn o Adnoddau ar-lein

Roedd y Llysgenhadon yn awyddus i ddatblygu pecyn dwyieithog o adnoddau ar-lein a allai gynnwys y canlynol: 

  • Ffilmiau ar amryw o destunau lleol
  • Ffotograffau/ ffilmiau lleol o ansawdd uchel
  • Taith Ddysgu/ nodiadau/trafodaethau gweithdy 
  • Dolenni i wefannau perthnasol
  • Blogiau/Flogiau/Podlediadau
  • Mynediad hawdd at offer brandio i gysylltu ag ymgyrchoedd marchnata presennol fel Ymgyrch Farchnata ‘Ymgollwch yn y..’ Conwy 

Sesiynau mentora a meithrin gallu

Mae gan lysgenhadon amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau y gellid eu rhannu a’u defnyddio i wella ymgysylltu â busnesau a'r profiad i ymwelwyr. Bydd Llysgenhadon yn cael eu hannog i fod yn fentoriaid/ cyfeillio â Llysgenhadon eraill i rannu gwybodaeth berthnasol lle bo angen, datblygu perthnasoedd a thraws-rwydweithio.

Gallem gynnig y cyfle am sesiynau meithrin gallu a fydd yn cyd-fynd â nod cyffredinol y llysgennad ac yn cynorthwyo ymarfer ar y modiwlau ar-lein.  Byddai modd gwneud y rhain mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill fel Busnes Cymru, Coleg Llandrillo ac ati. Byddai’n cynnwys sesiynau dysgu byr mewn pynciau fel ffotograffiaeth, ffilmio, marchnata, gwasanaeth cwsmeriaid, yn dibynnu ar adborth y Llysgennad. 

Y costau sydd ynghlwm â’r prosiect fyddai ymchwil, ymgynghori a gosod hawlfraint ar fodiwlau dysgu ar-lein / seiliedig ar wybodaeth.  Cynhyrchu modiwlau a’r gwaith technegol o adeiladu gwefan i gynnal modiwlau hyfforddiant ac adnoddau ar-lein (gan gynnwys cyfieithu er mwyn cael adnoddau dysgu cwbl ddwyieithog).  Hefyd, bydd elfen o gyllid ar gyfer hyrwyddo, ymgysylltu, a lansio i’r diwydiant.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£25830.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Conwy
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Clare Sharples
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts