Rhannu Hanes Lleol

Cyflwynir y prosiect hwn gan y Grŵp Pum Cymuned a bydd yn dechrau gyda sefydlu grŵp llywio gyda lleiafswm o un person o bob un o’r pum grŵp hanes. Mae’r cymdeithasau hyn yn cwmpasu 8 pentref ac 1 tref yn Sir Benfro. Mae’r holl gymdeithasau sy’n ymglymedig yn gwneud cynnydd parhaol yn catalogio ac archifo eu hadnoddau. Mae mwy na 200 o aelodau o’r grwpiau hyn, gydag eraill o’r ardal leol yn mynychu digwyddiadau neu ddarlithoedd. Cyflogir unigolyn â chymwysterau addas am ddwy flynedd dan strwythur rheolaeth PLANED a bydd gan bob ardal amserlen ddynodedig gyfartal.

Bydd gan bob cymdeithas edefyn unigol ar y wefan newydd ‘Treftadaeth Sir Benfro’ a chyflenwir gwefannau lleol eraill e.e. Archwilio Sir Benfro. Bydd y broses hon yn datblygu a chryfhau cysylltiadau treftadaeth rhwng y pum cymuned gan greu ymwybyddiaeth ddyfnach o’r ymdeimlad o le. Bydd y rhwydwaith cefnogol hwn o fudd i holl grwpiau yn ymchwilio a chyflwyno prosiectau’r dyfodol a gall ymddwyn fel prototeip i gysylltu cymdeithasau hanes yn y dyfodol.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£43,932
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
5
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Elizabeth Rawlngs
Rhif Ffôn:
01437 891706
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts