Runwayskiln Cyf

Fel rhan o'r cynnig, bwriedir creu caffi a darpariaeth llety amrywiol, gan gynnwys llety grŵp ac opsiynau glampio.

Bydd y caffi yn cynnwys seddau i 40 o bobl. Bydd yn cynnig bwyd syml gan gyflwyno'r cynnyrch lleol gorau, mwyaf ffres o Sir Benfro.

Bydd ganddo drwydded i werthu alcohol hefyd, er mwyn cynnig amrywiaeth ehangach o luniaeth a chynnyrch lleol. Cynigir brecwast i westeion dros nos ond bydd hefyd ar gael i'r cyhoedd.

Bydd y caffi yn cynnig digwyddiadau cinio nos y gellir eu trefnu ymlaen llaw ar gyfer hyd at 35 o bobl, wedi'u hanelu at deithiau ynys ('Swperau Skomer') sy'n dychwelyd fin nos o Martin's Haven. Cânt eu cynnal deirgwaith yr wythnos yn ystod cyfnodau brig, a threfnir yr amseroedd drwy gyd-drafod â Dale Sailing er mwyn lleihau'r effaith ar y ffyrdd.

Bydd y prif dŷ bynciau yn darparu ystafell â 10 gwely â dwy ystafell wlyb â chawodydd a mannau newid a thoiledau preifat. Caiff dwy ardal arall eu trosi er mwyn cynnig gwelyau i 4 i 5 o bobl, a bydd dau bod Glampio ecogyfeillgar. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£35,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Charlie Langrick
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts