Strategaeth 5 mlynedd Cwm Ogwr a Chynllun Gweithredu CAMPUS

Bydd y prosiect yn galluogi Cyngor Cymuned Cwm Ogwr (y Cyngor Cymuned) i gyflogi ymgynghorydd i gynnal ymgynghoriad cynhwysfawr gyda thrigolion Cwm Ogwr a rhanddeiliaid, i nodi anghenion a blaenoriaethau ar gyfer y cwm.

Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon ac ystyried cynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, bydd yr ymgynghorydd yn gweithio gyda'r Cyngor Cymuned i lunio Strategaeth 5 mlynedd a Chynllun Gweithredu CAMPUS ar gyfer Cwm Ogwr.

Bydd y Strategaeth a Chynllun Gweithredu CAMPUS yn galluogi'r Cyngor Cymuned i flaenoriaethu ei waith a chyfeirio ei gyllid dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd hefyd yn fodd i'r Cyngor sicrhau ei fod yn gydnaws â blaenoriaethau a chynlluniau rhanbarthol a chenedlaethol a manteisio ar gyfleoedd ariannu cysylltiedig. Mae'r Cyngor Cymuned eisoes yn gweithio gyda Datblygu Gwledig Reach ar nifer o brosiectau yng Nghwm Ogwr a fydd yn cael eu cynnwys yn y Strategaeth a Chynllun Gweithredu CAMPUS.

Mae'r Cyngor Cymuned yn dymuno nodi themâu cyffredinol, a fydd yn cyfeirio eu gwaith a'u cyllid yn y dyfodol e.e. amgylcheddol, cymunedol, iechyd a lles, tai, trafnidiaeth a chyflogaeth. Bydd yn penderfynu ar y themâu hyn drwy adborth yr ymgynghoriad ac ystyried strategaethau a blaenoriaethau cenedlaethol a lleol. 

Mae Cwm Ogwr yn elwa ar Gronfa Ffermydd Gwynt Cymunedol Pant y Wal, sy'n darparu £100,000 y flwyddyn am 25 mlynedd ar gyfer grantiau cymunedol sydd wedi'u dosbarthu ers 2019. Mae'n gynllun grant agored lle mae'r Cyngor Cymuned yn hysbysebu ac yn fetio ceisiadau ac yn gwneud argymhellion i'r Pwyllgor Grant Ffermydd Gwynt sy'n gwneud y penderfyniad terfynol. Bydd y Cyngor Cymuned yn defnyddio'r adborth ymgynghori i weithio gyda deiliaid y Gronfa Ffermydd Gwynt i weld a allant gyfeirio'r meini prawf ariannu fel bod ceisiadau'n cyd-fynd â'r Strategaeth ac yn cyfrannu at gyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£4,975
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2
19.3

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts