Mae gwyndonnydd llysieuol, a elwir hefyd yn borfeydd aml-rywogaeth, yn cynnwys cyfuniad o laswelltau, codlysiau a pherlysiau. Mewn systemau pori, mae cynyddu bioamrywiaeth y borfa yn un strategaeth bosibl a allai leihau dibyniaeth ar anthelminitigau cemegol, gan fod codlysiau a pherlysiau’n llawn cyfansoddion gyda rhinweddau anthelminitig posib. Credir y gallai gwyndonnydd llysieuol gynorthwyo i:
- leihau baich llyngyr mewn ŵyn sy’n pori
- cynnal/gwella cynnydd pwysau byw
- lleihau’r angen ar gyfer gwrtaith
Nod y prosiect hwn, sy’n cynnwys tri ffermwr o Geredigion a Sir Gâr, yw asesu effaith defnyddio gwyndwn llysieuol o’i gymharu â gwyndwn rhygwellt a meillion mwy confensiynol, a’i effaith ar gynnydd pwysau byw dyddiol a baich llyngyr ŵyn sy’n tyfu.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£39,994
- Ffynhonnell cyllid:
-
PAE
- Ardal:
-
Sir Gaerfyrddin
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Nigel Howells
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts